Oxfam Cymru yn galw ar gerddorion i rocio mis Ebrill

28 Mawrth 2008

View this page in English

Y grŵp Cymreig Goldie Lookin Chain yn rhoi eu cefnogaeth i Oxjam yng Nghymru' Llun: Oxfam CymruMis Hydref diwethaf cynhaliwyd 47 digwyddiad yma yng Nghymru, gyda chyfraniad 564 o gerddorion ac yn diddanu miloedd o bobl, gyda bob un yn codi arian i daclo tlodi ledled y byd. Wel, ar gyfer y rhai a gollodd Oxjam llynedd, neu a fwynheuodd cymaint nes eu bod am gyfranogi eto, dyma gyfle arall. Yma yn Oxfam Cymru rydym yn edrych am gefnogwyr cerddoriaeth rhagweithiol i drefnu digwyddiad cerddorol yn wirfoddol, ac i wneud mis Ebrill yn fis o gerddoriaeth, codi arian a chynorthwyo Oxfam i roi terfyn ar dlodi.


Mae Oxjam yn ŵyl wahanol: miloedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan bobl sy'n caru cerddoriaeth - o wyliau mawreddog i fysgio noddedig yn lleol. Gwahoddir pobl ag ystod o chwaeth gerddorol, o werin i ffync ac o roc i rave, i ymuno yn yr ŵyl ac nid oes rhaid iddo fod mewn lleoliad mawr. Cryfder Oxjam yw y gall cannoedd o ddigwyddiadau bychain mewn tafarnau lleol neu hyd yn oed mewn ystafell fyw wneud un parti anferth.

Ym mis Hydref, cyfranogodd DJ BBC Radio Cymru a Radio Un, Huw Stephens yn Oxjam ac mae'n annog pawb a phob un yng Nghymru i ymuno eto ym mis Ebrill.

Meddai Huw Stephens:" Os ydych yn caru cerddoriaeth - gwnewch ddefnydd da ohono a chymerwch ran yn Oxjam - mae'n ffordd wych o hyrwyddo eich sîn gerddoriaeth leol - naill ai fel trefnydd neu berfformiwr. Yn fwy na hynny, mae Oxjam yn beth dda, yn ddiamheuol, felly cyfrannwch at Oxjam mewn rhyw fodd os medrwch."


Gall cyfrannu at Oxjam hefyd fod yn blatfform i gyrraedd at gynulleidfa ehangach. Roedd nifer o gerddorion a berfformiodd llynedd wedi ffilmio eu cyfraniad mewn sioe Oxjam a llwytho'u fideos ar wefan MTV. Cafwyd pleidlais gyhoeddus rhwng y goreuon, ac mae Her Portrait in Black o Ferthyr Tudful bellach ymysg y rhai sydd mewn rownd gynderfynol yn cystadlu i ymddangos mewn sioe stiwdio arbennig ar MTV.


Meddai Liz Whitaker, person graddedig o Brifysgol a drefnodd noson uchelgeisiol o gerddoriaeth ar gyfer Oxjam llynedd: "Cyrhaeddodd tua 1,200 o bobl ar y noson - roedd mor gyffrous i weld cymaint o bobl. Daeth llwyth o bobl ataf a diolch. Mae fy nghyfeillion yn siarad am y peth o hyd. Rwy'n falch iawn o'r digwyddiad a drefnais, ac rwy'n credu bod Oxjam yn syniad anhygoel. Mae'n ffordd wych o annog pobl i gyfranogi gydag elusen mewn oedran ifanc, ac mae'r digwyddiadau yn darparu cymaint o le ar gyfer gwreiddioldeb ac amrywiaeth."


Er mwyn cael gwybod sut i gymryd rhan yn Oxjam mis Ebrill, ac i gael ysbrydoliaeth gan ddigwyddiadau a drefnwyd eisoes ewch at:
www.oxfam.org.uk/oxjam neu ffoniwch 0870 905 9060

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011