Ymgyrchwyr Cymru yn tynnu sylw at argyfwng dyngarol Gaza

28 Mawrth 2008

View this page in English

gaza.jpgYn eu hadroddiad newydd ar y cyd, mae'r gynghrair - yn cynnwys Amnest Rhyngwladol y DU, CARE International UK, CAFOD, Cymorth Cristnogol, [Mercy Corps], Médecins du Monde, Oxfam ac Achub y Plant y DU - yn rhybuddio bod gwarchae Israel ar Gaza yn gosb gyfunol ar yr 1.5 miliwn o bobl gyffredin yn Gaza i gyd. Casgliad yr adroddiad yw bod polisi gwarchae llywodraeth Israel yn annerbyniol, anghyfreithlon ac yn methu sicrhau diogelwch i Balestiniaid ac Israeliaid fel ei gilydd.

Meddai Steve Brooks, Pennaeth Oxfam Cymru: "Mae'r sefyllfa yn Gaza bellach mor ddrwg nes nad ydym yn gwneud mwy na chadw pobl yn fyw. Mae diweithdra wedi saethu i fyny ac mae 80% o bobl Gaza yn dibynnu ar gymorth bwyd o'i gymharu gyda 63% yn 2006. Mae'r strwythur dŵr a charffosiaeth ar fin dymchwel yn llwyr. Os na fydd y gwarchae yn dod i ben ar unwaith, bydd yn amhosibl arbed Gaza rhag y trychineb hwn, a bydd unrhyw obeithion am heddwch yn y rhanbarth yn cael eu dinistrio."


Meddai Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Amnest Rhyngwladol, Cymru: "Mae'r problemau diogelwch dyfnach yn Gaza yn digwydd mewn awyrgylch o dlodi gwael, gydag ychydig iawn o fynediad at fwyd, dŵr glan, trydan a gofal meddygol. Mae gan Israel hawl i amddiffyn ei dinasyddion, ond mae ganddi hefyd ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu hawliau dynol sylfaenol ar gyfer pobl Gaza, ac ni ddylai gosbi'r boblogaeth gyfan fel hyn."


Meddai Julie Morgan, AS Gogledd Caerdydd: "Pan ymwelais â Gaza ym mis Medi llynedd, roeddwn gyda'r grŵp cyntaf o ASau i ymweld â'r diriogaeth ers i Hamas gymryd drosodd. Roedd prinder nwyddau meddygol a deunyddiau crai, ac roedd pris bwyd sylfaenol megis blawd, reis a llaeth powdwr yn cynyddu. Roedd y sefyllfa yn ddifrifol bryd hynny, ac mae hyd yn oed yn waeth erbyn hyn. Bobl gyffredin Gaza sy'n dioddef o gael eu hynysu rhag gweddill y byd ac o'r trais yn y rhanbarth, a rhaid cael ateb i'r argyfwng hwn cyn gynted ag sy'n bosibl."


Yn ôl yr adroddiad, mae gwarchae Gaza wedi cyflymu'r patrwm tymor hir o ddirywiad mewn sectorau allweddol megis tlodi, diweithdra, addysg ac iechyd. Mae dros 1.1 miliwn o bobl yn dibynnu ar gymorth bwyd yn Gaza o'i gymharu gydag 16,164 yn 1999 ac, o'r 110,000 o weithwyr a oedd yn gyflogedig gynt yn y sector breifat, mae 75,000 o weithwyr bellach wedi colli eu swyddi.


Mae adroddiad y gynghrair, "The Gaza Strip: A humanitarian implosion", yn annog llywodraeth y DU a'r UE i bwyso am strategaeth newydd ar gyfer Gaza. Yn arbennig, mae'r adroddiad yn galw ar lywodraeth y DU i:



  • Roi mwy o bwysau ar lywodraeth Israel i agor y croesfannau i mewn i Gaza a rhoi terfyn ar doriadau tanwydd a thrydan er mwyn atal y trychineb dyngarol cynyddol

  • Gynorthwyo i hwyluso proses o gymodi Palesteinaidd a all arwain at broses heddwch credadwy ac effeithiol gydag Israel

  • Roi'r gorau i'r polisi aflwyddiannus o wrthod ymgysylltu, a chychwyn ar drafodaethau gyda phob plaid Palesteinaidd, gan gynnwys Hamas


Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Gynrychiolydd Arbennig y Pedwarawd i edrych ar gyfyngiadau symudiadau fel un o achosion gwraidd llonyddwch economaidd.

Darganfod mwy

The Gaza Strip: A humanitarian implosion