Mae Stephen Crabb AS yn cefnogi'r Ymgyrch Fyd-eang ar gyfer Addysg

27 Ebrill 2008

View this page in English

Stephen Crabb AS yn ymweld â Ysgol Gynradd Hwlffordd Digwyddodd yr Ymgyrch Fyd-eang ar gyfer Addysg ar 21-25 Ebrill 2008, gan alw ar bob plentyn yn y byd i dderbyn addysg sylfaenol am ddim. Ceir 7 blynedd yn unig i gyrraedd Amcanion Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Mileniwm i gyflawni addysg gynradd fyd-eang i holl blant y byd erbyn 2015, ond mae 72 miliwn o blant o hyd yn colli'r cyfle i gael addysg gynradd, ac mae miliynau rhagor yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i'r ysgol cyn y gallant gwblhau addysg sylfaenol hyd yn oed.

Fel rhan o wythnos weithredu'r ymgyrch yng Nghymru, ymwelodd Stephen Crabb AS â Chanolfan Wirfoddol Ysgol Gynradd Hwlffordd lle'r oedd y plant yno wedi dysgu am yr hawl i addysg gan ychwanegu ei gefnogaeth i'r alwad i Lywodraethau ar draws y byd i ddarparu addysg gynradd gyhoeddus orfodol i bob plentyn. Gwnaeth Stephen Crabb AS addewid y byddai'n trosglwyddo cardiau gweithredu'r plant i Anfon fy Ffrind i Ysgol i'r Prif Weinidog Gordon Brown.

Meddai Stephen Crabb AS:

Mae'r arian sy'n cael ei wario ar addysg gynradd wir yn cael effaith - arian ydyw sy'n cael ei wario'n dda. Addysg yw'r ffordd y gall pobl ar draws y byd ddianc rhag tlodi. Os rhoddir cyfle i blant ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu, bydd ganddynt ddyfodol mwy disglair.

Meddai Steve Brooks, o Oxfam Cymru:

Mae arweinwyr y byd wedi addo y bydd pob plentyn yn y byd yn derbyn addysg sylfaenol, yn rhad ac am ddim erbyn 2015. Rydym yn falch bod Stephen Crabb wedi ychwanegu ei gefnogaeth i'r ymgyrch i roi pwysau ar lywodraethau a'r gymunedau ryngwladol er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewid i'r holl fechgyn a merched sydd yn y byd.

Ychwanegodd,

Mae miliynau o rieni, athrawon a phlant o gwmpas y byd yn galw ar eu llywodraethau i ddarparu addysg sylfaenol yn rhad ac am ddim, ac o ansawdd da ar gyfer holl blant y byd.

Ychwanegodd Stephen Crabb AS:

Dylai plant dderbyn eu hawl ddynol sylfaenol i gael addysg lle bynnag y maent yn byw.

Ymysg gweithgareddau eraill yr ymgyrch yn ystod yr wythnos oedd Gwers Fwyaf y Byd ac Arddangosfa Lluniau yn y Senedd.


Ysgol Rhyd y Grug Dyma llun o Ysgol Rhyd-y-Grug, Treharris yn cymryd rhan yng Ngwers Fwyaf y Byd ddydd Mercher 23 Ebrill 2008. Ymwelodd P V Sateesh, Cyfarwyddwr Datblygiad Cymdeithas Deccan, India, sef sefydliad mewn partneriaeth â Chymorth Cristnogol, â Rhyd-y-Grug a chymerodd ran yn y wers.


Gweinidog Addysg Jane Hutt AC gyda Stephen Brooks, Pennaeth dros-dros Oxfam Cymru a Jeff Williams, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol Cymru Roedd yr Arddangosfa Lluniau yn y Senedd yn tynnu sylw a chefnogaeth nifer o Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys y Gweinidog Addysg, Jane Hutt AC, lle gwnaethant lofnodi bwrdd sialc Ymgyrch Fyd-eang ar gyfer Addysg Oxfam Cymru i ddangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch.