Cynhadledd Masnach Deg Cymru 2008 - Dydd Sadwrn 7 Mehefin

5 Mai 2008

View this page in English

Irene Kijara, ffermwr te, Uganda, Hawlfraint Simon Rawles Eleni, bydd Fforwm Masnach Deg Cymru yn cynnal ei gynhadledd fwyaf hyd yn hyn, gan ymgynnull cefnogwyr Masnach Deg ar draws Cymru i ddathlu ac i ysbrydoli gwaith dirfawr holl ymgyrchwyr Masnach Deg. Dewch i glywed yn eu geiriau eu hunain gan bedwar cynhyrchydd Masnach Deg gwahanol ar effaith Masnach Deg ar eu cymunedau mewn gwledydd sy'n datblygu a hefyd archwilio materion amserol ynghylch Masnach Deg.

Bydd hefyd amrywiaeth gwych o weithdai'n ymwneud â materion Masnach Deg a fydd yn rhoi syniadau a thechnegau i'r ymgyrchwyr ynghyd â rhai gweithdai mewn lleoedd agored er mwyn rhannu syniadau a phrofiadau â grwpiau llywio Masnach Deg eraill.

Dewch i bori yn y Ffair Masnach Deg ardderchog sydd ag amrywiaeth eang o stondinau'n gwerthu nwyddau Masnach Deg ac sy'n rhoi gwybodaeth, yn ogystal â chaffe Masnach Deg. Caiff y ffair ei threfnu mewn cysylltiad â Chymdeithas Siopau Masnach Deg Prydain a Chanolfan Cydweithredol Cymru. Bydd y ffair hefyd yn agored i'r cyhoedd ac mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Bydd y gynhadledd hefyd yn lansio ymgyrch dathliadol ledled y wlad, 'Chwifio'r Faner dros Fasnach Deg'. Bydd y faner hon yn dathlu ymgyrch Masnach Deg Cymru drwy gychwyn ar daith ar draws Cymru i ymweld â 22 o wledydd.

Pryd: Dydd Sadwrn 7 Mehefin
Amser: 10am - 4pm
Ble: Prifysgol Cymru, Casnewydd - Campws Caerllion

Am fwy o wybodaeth neu i lawr lwytho ffurflen archebu, ymwelwch â gwefan Fforwm Masnach Deg Cymru.

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011