DEC Cymru yn lansio apël wrth i dimau a chymorth ddyngarol elusennau gyrraedd Myanmar (Burma)
8 Mai 2008

Lansiodd Pwyllgor Brys yr Argyfyngau Cymru (DEC Cymru) ei apêl Myanmar (Burma) i helpu pobl yn Myanmar sydd wedi eu effeithio gan y difrod dychrynllyd a achosywd gan Seiclon Nargis.
Galwodd cynrychiolwyr o'r mudiadau sy'n aelodau o DEC Cymru ar bobl Cymru I gyfrannu at yr apêl er mwyn galluogi'r mudiadau dyngarol i roi cymorth cyn gynted a phosib yn yr ardaloedd sywdd wedi'u heffeithio waethaf yn ogystal â gwneud gwaith ailadeiladu hirdymor.
Dywedodd Richard Laydon, Cadeirydd DEC Cymru :
Caiff cyfraniadau gan y cyhoedd eu defnyddio ar gyfer yr anghenion sylfaenol megis dwr glan, bwys, lloches a meddyginaethau Ond cymaint yw'r difrod dychrynllyd bydd angen cymorth a gwaith ailstrwythuro am fisoedd i ddod.
Mae Timau o fydiadau'r DEC ynghyd a nwyddau cymorth yn cyrradedd Myan mar nawr ac yn cyrraedd rheiny sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan Seiclon Nargis.
Ychwanegodd Richard Laydon :
Wrth i ragor o gymorth gyrraedd Myanmar mae DEC Cymru yn gofyn i bobl Cymru wneud cyfraniad ar fryder i'w Apêl Seiclon Myanmar (Burma) Cyclone
Mae timau brys meddygol o Merlin wedi cyrraedd yn Yangon a byddant yn ymuno a channoedd o staff lleol Merlin sydd wedi bod yn gweithio yn y wlad ers 2005. Mae gan yr elusen ganiatad i ddefnyddio cwh ar yr afon i ddarparu gofal iechyd i'r degau o filoedd sydd yn gaeth i ardal Delta Irrawaddy.
Dywedodd Prif weithredwr Merlin Carolyn Miller :
Yr ardal fflat ardorirol oedd un or ardaloedd gwaetha i gael ei fwrw gan y Seiclon. Mae bob un o gychod meddygol Merlin wedi eu dinistrio ac o ganlyniad mae wedi nod yn anodd iawn cyrraedd pobl. Mae ein timau yn gweithio ar lawr gwlad nawr yn nhreflan Laputta, yn trin cleifion trawma yn ogystal a asesu anghenion meddygol pobl yn gyflym iawn.
Mae'r Groes Goch yn y broses o anfon tarpolin, 'jerry cans' a phecynnau lloches ar gyfer mwy na 2,000 o bobl. Bydd awyren arall yn cyrraedd heddiw, ddydd Gwener. Bydd tim logisteg Ymateb i Argyfwng y Groes Goch Bryneinig yn cyrraedd heno (nos wener) a'r prif flaenoriaeth fydd sicrhau dosbarthu cymorth i'r rheiny sydd ei angen fwyaf.
Ddydd Mercher dosbarthodd CARE ddwr yn Yangon i bron 10,000 o bobl mewn lloches dros-dro. Mae 100,000 o becynnau teulu yn cael eu paratoi a byddant yn cael eu cludo o Thailand cyn gynted a phosib. Mae'r pecynnau yn cynnwys blancedi, jerry cans, cynfasau plastic, dillad ac eitemau glanweithdra.
Gellir cyfrannu at apêl DEC Cymru Myanmar arlein neu drwy ffonio 0870 60 60 900. gallwch hefyd wneud cyfraniad drwy unrhyw siop Oxfam, Groes Goch neu Achub y Plant ac mewn banciau.






