Coeden Deithiol Tanabata
16 Mehefin 2008
Mae Oxfam Cymru wedi bod yn teithio ledled Cymru gyda'i hymgyrch ddiweddaraf i annog arweinwyr byd flaenoriaethu gweithredu ar newid hinsawdd yr Uwchgynhadledd G8 yn Siapan ym mis Gorffennaf. Mae ymgyrch Wish Upon a Star Oxfam Cymru yn galw am weithredu cymorth tramor parhaus, gofal iechyd byd-eang a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae diwrnod cyntaf yr uwchgynhadledd yn syrthio ar ddydd gŵyl Tanabata yn Japan. Ar y dydd hwn mae pobl yn clymu dymuniadau ysgrifenedig i goed bambŵ, ac mae Oxfam Cymru yn gofyn i bobl ledled Cymru i anfon dymuniad Tanabata at arweinwyr byd.
Yn ystod y daith aeth Oxfam Cymru ar ymweliad i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghonwy lle'r ymunodd Elfyn Llwyd AS ag aelodau ifanc yr Urdd i anfon eu dymuniadau at y G8.

Meddai Elfyn Llwyd AS:
'Mae'n bleser gennyf ymuno â'r Urdd ac Oxfam Cymru i alw ar arweinwyr G8 i ymrwymo eu hunain i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
''Mae pobl ifanc yr Urdd yn anfon neges glir o Gymru at yr wyth arweinydd mwyaf pwerus yn y byd bod rheidrwydd arnynt i arwyddo cytundeb byd-eang cadarn i greu torriadau llym ar allyriadau carbon. Rhaid iddynt hefyd ddarparu cyllid i gefnogi gwledydd tlawd i addasu ar gyfer newid hinsawdd.

''Rhaid i arweinwyr G8 hefyd gwrdd â'r addewidion y gwnaethant yn 2005 i roi mwy o gymorth i wledydd tlawd yn 2005. Mae'n bryd iddynt eu cyflawni."
Ymunodd siop leol Oxfam ym Mhorthmadog â'r ymgyrch i gasglu dymuniadau ar gyfer uwchgynhadledd y G8
Medd Victoria Chance, rheolwr siop Oxfam Porthmadog:
"Rydym wrth ein bodd bod y goeden wedi galw draw i'n gweld ym Mhorthmadog fel y gallwn ychwanegu ein cefnogaeth i'r ymgyrch wirioneddol bwysig hon. Dychmygwch sut mae pethau os nad oes gennych feddyg pan rydych yn sâl, dim cymorth pan rydych ar eich gwanaf a'i angen fwyaf. Felly mae'r neges yn un syml - mae'n rhaid i arweinwyr G8 gadw'r addewidion gwnaethpwyd yn 2005 i roi mwy o gymorth i wledydd tlawd yn 2005. Mae'n bryd iddynt eu cyflawni."
Bydd Oxfam Cymru yn casglu dymuniadau ledled Cymru tan uwchgynhadledd G8 yn Japan ym mis Gorffennaf. Mae angen i filoedd o bobl ledled Cymru ymuno yn yr ymgyrch drwy anfon dymuniad a mynnu Gweithredu Nawr o ran cymorth, iechyd a newid hinsawdd.




