Cymru'n arwain y ffordd wrth gael ei henwi'n Genedl Masnach Deg gyntaf y byd

9 Mehefin 2008

View this page in English

Ffarmwraig goffi, Uganda. Llun Simon Rawles Ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin yng nghynhadledd Fforwm Masnach Deg Cymru yng Nghasnewydd, cyhoeddwyd Cymru'n Genedl Fasnach Deg gyntaf y byd. Rhodri Morgan AS, Prif Weinidog Cymru gyhoeddodd y gamp ryfeddol hon, gan longyfarch y fforwm a'r cannoedd o wirfoddolwyr lleol am eu gwaith caled i gyflawni'r anrhydedd hwn dros Gymru.


"Mae hon yn fraint enfawr i Gymru, ac mae'n dangos sut y gall gwlad fach fel ein gwlad ni wneud gwahaniaeth. Mae'r cynnydd a wnaed mewn dwy flynedd yn dyst i frwdfrydedd ac eiddgarwch pobl Cymru," meddai.


Daeth y cyhoeddiad ar ôl dwy flynedd o waith caled gan Fforwm Masnach Deg Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gefnogir gan nifer o grwpiau ac unigolion gan gynnwys Oxfam Cymru. Er mwyn ennill statws masnach deg roedd yn rhaid i'r fforwm gynyddu argaeledd cynhyrchion Masnach Deg mewn trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru, ac i annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill newid i ddefnyddio cynhyrchion Masnach Deg.


Meddai Jane Davidson AC, Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, sy'n gyfrifol am Fasnach Deg yn Llywodraeth y Cynulliad, wrth yr uwchgynhadledd: "Mae'n bleser ac yn fraint cael datgan y gall Cymru ei galw ei hun yn Genedl Masnach Deg erbyn hyn, sy'n dangos cynnydd sylweddol yn argaeledd cynhyrchion Masnach Deg, a'r defnydd ohonynt, mewn sefydliadau, cymunedau a busnesau ledled Cymru.


"Mae Cymru'n dangos y gall gwlad fach gymryd camau i wneud newid mawr - ac yn achos Masnach Deg, gael effaith enfawr ar fywydau cynhyrchwyr yn y trydydd byd a'u teuluoedd."


Dywedodd Duncan Rees, Cadeirydd Fforwm Masnach Deg Cymru: "Diolch i gymorth dros fil o wirfoddolwyr mae'r cynnydd dros gyfnod o ddwy flynedd wedi dod yn un rhyfeddol! Heddiw, yng Nghymru, ceir 58 grŵp trefi Fairtrade, grwpiau Fairtrade ym mhob un o'r 22 sir yng Nghymru, ac mewn llai na blwyddyn mae 380 ysgol wedi ymrwymo i ddysgu ynglŷn â Fairtrade ac i ddefnyddio cynnyrch Fairtrade. Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn destament i bobl Cymru."


"Mae hwn wedi bod yn brofiad gwirioneddol wylaidd ac mae'n ymwneud â chreu gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau rhai o bobl dlotaf y byd. Po fwyaf o wledydd sy'n derbyn her Cenedl Masnach Deg, po fwyaf o bobl fydd yn gallu gweithio eu ffordd allan o dlodi."


Dim ond cam cyntaf yr ymgyrch yw hwn. Er mwyn cynnal a gwella safle Cymru fel Cenedl Masnach Deg - mae'n rhaid i ymwybyddiaeth a defnydd pobl, sefydliadau a busnesau Cymru o Fasnach Deg barhau i dyfu. Bydd Oxfam Cymru yn cefnogi'r ymgyrch i sicrhau bod hyn yn digwydd.