Myfyrwyr Howells yn cefnogi Ymgyrch Oxfam Cymru - Erfyn ar y Sêr

9 Gorffenaf 2008

View this page in English

Ysgol Howells Mae myfyrwyr Ysgol Howells, Llandaf, wedi ymuno ag ymgyrch Oxfam Cymru i annog arweinwyr y byd i roi blaenoriaeth i weithredu ar newid hinsawdd, cymorth a gofal iechyd yn Uwchgynhadledd yr G8 yn Siapan.


Bydd pedwar disgybl chweched dosbarth Ysgol Howells, Llandaf yn Siapan yr wythnos hon yn mynychu'r J8 - y gynhadledd iau fyd-eang sy'n cael ei chynnal ar yr un pryd ag Uwchgynhadledd yr G8. Byddant yn cludo negeseuon Oxfam Cymru gyda hwy wrth gynrychioli'r DG yn y cyfarfod.


Mae ymgyrch Dymuniadau Oxfam Cymru yn galw am weithredu parhaus ar gymorth tramor, gofal iechyd byd eang a thaclo newid hinsawdd. Mae'r uwchgynhadledd yn cychwyn ar yr un diwrnod a'r ŵyl Siapaneaidd Tanabata. Ar y diwrnod hwn, mae pobl yn clymu dymuniadau ysgrifenedig ar goed bambŵ, ac mae Oxfam Cymru yn gofyn i bobl ledled Cymru anfon dymuniad Tanabata at arweinwyr y byd.


Cyn mynd i'r dwyrain pell, bu'r ymgyrchwyr ifanc yn casglu cefnogaeth gartref, gan sicrhau bod yr holl ysgol wedi ymrwymo i'r ymgyrch.


Meddai Jasper Warner: "Mae cydweithio gydag Oxfam Cymru yn wych - rydym yn cytuno'n llwyr gyda'r Ymgyrch Gweithredu Nawr - sicrhau bod arweinwyr y byd yn cyflawni yn union yr hyn a addawyd tair blynedd yn ôl...Mae'n bryd iddynt gadw at eu gair.''


Ychwanegodd Hannah Cockley, "Rydym am i wyth arweinydd mwyaf pwerus y byd glywed neges glir o Gymru - bod rhaid ymrwymo at gytundeb fyd eang gref i ostwng gollyngiadau carbon yn ddrastig. Rhaid iddynt hefyd ddarparu cyllid i gynorthwyo gwledydd tlawd wrth addasu i newid hinsawdd."


Meddai Rose Stuart, "Ni yw'r dyfodol, ac os na fydd arweinwyr y byd heddiw yn gweithredu yn unol â'u haddewidion ar unwaith, ni fydd yn talu'r pris ymhen ugain mlynedd."


Meddai Harry Brooks, "Dylai mwy o bobl ifanc yng Nghymru ystyried pa fath o fyd y byddwn yn byw ynddi pan fyddwn yn hŷn, a gweithredu i sicrhau y bydd yn blaned sy'n unol â'n dymuniad."


Meddai Steve Brooks, Pennaeth dros dro Oxfam Cymru: "Mae'n wych bod pobl ifanc Caerdydd yn cefnogi ein hymgyrch Dymuniadau - mae angen i wledydd cyfoethocaf y byd weithredu ar unwaith ar gymorth, iechyd a newid hinsawdd, ac nid gwneud addewidion ar gyfer dyfodol pell."

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011