Argyfwng Bwyd Dwyrain Affrica

28 Gorffenaf 2008

View this page in English

Geifr ar fin marw oherwydd y sychder. Llun Jonathan Tench / Oxfam Cymru Mae'r sefyllfa bresennol yn Nwyrain Affrica sydd wedi ei achosi gan brisiau bwyd uchel, rhyfela a tlodi enbyd wedi gadael miliynnau ar ofyn cymorth argyfyngol. Mae Oxfam wedi lansio Apêl ar gyfer Dwyrain Affrica i helpu y gwaith argyfyngol ar draws y rhanbarth. Mewn cyfnod lle mae prisau bwyd ym mhenawdau'r newyddion bron bob dydd, mae sefyllfa Dwyrain Affrica yn dangos rhan o'r byd allai fod ar fin profi newyn prisau bwyd cyntaf y byd.

Mae Oxfam yn gweithio ar hyd a lled dwyrain Affrica ond mae angen cefnogaeth y cyhoedd arnynt i gynyddu'r cymorth argyfyngol sydd ei angen mor ddybryd. Gall unrhyw un all gyfrannu fynd i www.oxfam.org.uk neu alw 0300 200 1300 neu anfon siec i Apêl Dwyrain Affrica Oxfam, Oxfam Cymru, Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol y santes Fair, Caerdydd. Mae staff yn siopau Oxfam hefyd yn derbyn cyfraniadau ar gyfer Apêl Dwyrain Affrica.

Jonathan Tench gyda Pamela Ata, Buddiolwr Oxfam. Llun Jonathan Tench / Oxfam Cymru Edrychwch ar ffilm gyda Jonathan Tench, Swyddog Polisi ac Adfocatiaeth Oxfam Cymru sy newydd ddychwelyd o ranbarth Turkana, gogledd Kenya.

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011