Sêr rygbi Cymru yn cefnogi apêl DEC Cymru ar gyfer y Congo
20 Tachwedd 2008
Mae rhai o sêr Rygbi Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i apêl DEC Cymru er mwyn codi arian i helpu pobl Gweriniaeth ddemocrataidd y Congo.
Wrth lansio Apêl Argyfwng y Congo DEC Cymru dywedodd Cadeirydd DEC Cymru, Richard Laydon, fod cymorth dyngarol eisoes yn cyrraedd y rhai sydd wedi eu heffeithio, ond bod angen gwneud mwy, a hynny ar raddfa eang.
Dros yr wythnosau diwethaf mae mwy na 250,000 o bobl wedi eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi i osgoi'r rhyfela, gan ychwanegu at y filiwn a mwy o bobl sydd eisoes yn ddigartref.
Dywedodd capten Cymru, Ryan Jones, "Hyd yn oed mewn cyfnod pan fydwn ni fel tim yn canolbwyntio ar ddiwrnod gem Ddydd Sadwrn yma, mae'n bwysig sbario ychydig o amser a arian i'r rheiny sy'n wynebu amgylchiadau ofnadwy o gwmpas y byd, yn enwedig yn y Congo ar hyn o bryd."
"Mae pobl Cymru wastad yn rhoi cefngoaeth arbennig i ni ac ry'n ni'n rhoi ein cefnogaeth ni i Apel DEC Cymru Argyfwng Congo i hybu cefnogwyr i gefnogi yr achos da hwn yn yr un ffordd."
Mae asiantaethau sy'n rhan o DEC Cymru yn barod yn darparu bwyd, dwr, lloches a nwyddau meddygol angenrheidiol i'r bobl sydd wedi cael eu heffeithio, ond gymaint yw graddfa'r argyfwng mae angen llawer mwy.
Mae gweithwyr dyngarol ar lawr gwlad yn dweud bod:
- Nifer o bobl wedi eu digartrefu am yr ail, trydydd neu hyd yn oed y pedwerydd tro oherwydd y gwrthryfela.
- Mae miloedd o blant yn byw mewn gwersylloedd dros-dros, ble maent mewn perygl o gael eu cam-drin yn feddyliol ac yn gorfforol.
- Mae World Vision yn amcangyfrif fod tua 5,500 o blant a fu unwaith yn filwyr, yn byw yn y gwersylloedd ac mewn perygl o gael eu hail-recriwtio i ymuno â lluoedd y gwrthryfelwyr.
- Mae nifer uchel iawn o dreisio a thrais yn seiliedig ar ryw, gyda diffyg amddiffyniad i ferched a menywod yn y gwersylloedd. Yn nhref Kanyabayonga, mae Oxfam yn dweud bod cynnydd sylweddol wedi bod yn yr achosion o dreisio sy'n cael eu cofnodi gan ysbytai lleol a chlinigau rhwng mis Mai a dechrau Tachwedd.
- Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion o ddiffyg maeth hefyd ymysg plant. Cyn y cynnydd diweddar mewn trais, bob dydd roedd arbenigwyr ar faeth yn anfon un neu ddau o blant a oedd yn dioddef i Ganolfan Faeth World Vision yn Rwanguba, i'r dwyrain o Rutshuru. Ers i'r brwydro ddinistrio tiriogaeth lluoedd y gwrthryfelwyr ger Rutshuru, mae rhwng wyth a deg o blant wedi bod yn cyrraedd bob dydd.
Ychwanegodd Ryan Jones, "Os yw pobl yr un mor hael heddiw ag mae nhw wedi bod yn y gorffennol gallan nhw wneud gwir wahaniaeth. Mae bob ceiniog yn cyfri."
Mae cyfrannu yn rhwydd Ewch i'n gwefan www.dec.org.uk neu ffoniwch y DEC ar 0370 60 60 900 neu gallwch gyfrannu mewn unrhyw fanc ar y stryd fawr neu swyddfa bost.




