Oxfam Cymru'n cefnogi grwpiau Cyfeillion a Chymdogion
12 Tachwedd 2008
Mae grwpiau Cyfeillion a Chymdogion (CAC) wedi ymuno mewn partneriaeth ag Oxfam Cymru ar ôl derbyn cefnogaeth ariannol gan Oxfam sy'n eu galluogi i barhau gyda'r gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf.
Mae Oxfam yn enwog am eu gwaith yn lleddfu tlodi a brwydro yn erbyn annhegwch mewn gwledydd tramor, ond mae llawer o bobl yn anwybodus o'r ffaith eu bod yn darparu rhaglenni sy'n helpu i wella bywydau pobl sy'n byw yn y DU.
Sylwodd Oxfam Cymru pa mor llwyddiannus oedd grwpiau CAC yn eu hymdrech i greu rhwydwaith o grwpiau yn eu cymunedau lleol er mwyn cynnig cefnogaeth emosiynol a chlust i wrando i'r trigolion. Mae newydd ddyfodiaid yn cael croeso mawr ac mae'r grwpiau CAC hefyd yn creu cyfleoedd i gyfnewid diwylliant a rhoi llwyfan i bawb yn y gymuned i leisio barn. Mae'r elusen fyd enwog, Oxfam, wedi nodi sut y mae grwpiau CAC yn cael effaith ar gydlyniad cymunedol, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, hybu undod crefyddol a hiliol, yn ogystal â meithrin dealltwriaeth a pharch tuag at bawb.
Dywedodd Lynne Hughes o Oxfam Cymru: "Mae Oxfam yn gweithio ar draws y byd gyda phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan argyfwng. Yn y DU mae hyn yn golygu helpu'r bobl hynny sy'n dianc rhag erledigaeth mewn gwledydd tramor ac yn ceisio lloches yma.
Rydym yn gweithio gyda cheiswyr lloches er mwyn eu helpu i oresgyn unrhyw hiliaeth yn y DU. Yn wyneb y ffaith hon rydym yn cefnogi prosiectau sy'n dod â cheiswyr lloches a'r cymunedau hynny sy'n barod i'w lletya at ei gilydd er mwyn difetha'r darlun stereoteip sydd gan y ddwy garfan o'i gilydd, ac i'w hannog i geisio deall ei gilydd yn well. Mae FAN yn enghraifft ardderchog o hyn."
Roedd Gill Ysgrifenyddes/Ymddiriedolwr CAC yn hapus dros ben bod Oxfam wedi dewis cefnogi grwpiau CAC. Dywedodd Gill: "Mae pawb yn edmygu gwaith Oxfam ac mae'n ardderchog cael eu cefnogaeth ar gyfer prosiect sy'n dechrau cael trefn ar wneud grwpiau CAC yn Fudiad Cenedlaethol, a fydd o ganlyniad yn barod i helpu a chynghori ynglŷn â sefydlu grwpiau CAC ar hyd a lled Cymru."
Am fwy o wybodaeth ymwelwch: www.thefangroups.org




