Sêr Rygbi y Gweilch am weld geifr, llyfrau ysgol a rhwydi Mosgito ar restrau siopa Nadolig

1 Rhagfyr 2008

View this page in English

Ian Gough, Huw Bennett ac Ashley Beck Mae sêr y Gweilch, Ian Gough, Huw Bennett ac Ashley Beck yn galw ar bobl Cymru i brynu anrhegion o ddewis helaeth Oxfam Unwrapped er mwyn prynu anrhegion gwerth chweil a rhoi diwedd ar dderbyn anrhegion dieisiau fel dîs fflwffiog, siwmper fawr wlanog a ymbarel print llewpart!

Geifr, llyfrau ysgol a rhwydi mosgito yw ond rhai o'r anrhegion mae'r chwareuwyr rygbi am eu gweld ar restrau siopa Nadolig. Mae ystod eang o anrhegion anghyffredin ar gael, a gallwch ddewis brynu tŷ bach (£50), 5 bag o hadau (£10), 8 llyfr ysgol (£6) neu rwyd mosgito (£15) ac felly ry'ch chi'n siwr o ddod o hyd I rywbeth at ddant bob aelod o'ch teulu a'ch ffrindiau. Mae anrhegion ar gyfer unrhyw un sy'n caru bwyd, anifeiliad neu ddarllen. Mae'r dewis ar gyfer eleni yw'r un fwyaf eto ac ar gael o'ch siop leol!.

Dywedodd Ian Gough:

"Mae'n ffordd gret o beidio prynu anrheg Nadolig dibwrpas arall i rywun! Ry'ch chi'n prynu anrhegion I deulu a ffrindiau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun. Rwy'n licio'r syniad o brynu gafr neu gamel I rhywun !"

Ychwanegodd Huw Bennett:

"Mae hefyd yn osgoi siomi rhywun gyda rhywbeth dy'n nhw ddim moyn. A dweud y gwir mae sawl syniad gwych yn y catalog ar gyfer rhai o'r bechgyn ar gyfer Santa cudd!"

Mae'r bechgyn yn siwr bydd anrhegion Oxfam Unwrapped yn destun trafod yn yr ystafelloedd newid hefyd:

Ychwenegodd Gough, "Pa ffordd arall allwch chi brynu camel neu afr i rywun i Nadolig! Mae digon o sbwriel ry'n ni'n gallu prynu I'n gilydd er mwyn codi gwen, ond gyda anrhegion Unwrapped gallwch chi godi gwen a gwneud gwahaniaeth enfawr I fywyd rhywun."

Ian Gough, Huw Bennett ac Ashley Beck Drwy brynu un o anrhegion Oxfam Unwrapped ry'ch chi'n rhoi ddwywaith - ry'ch chi'n rhoi anrheg I ffrind neu aelod o'r teulu tra'n rhoi I elusen a hepu rhai o bobl dlotaf y byd ar yr un pryd.


Meddai Steve Brooks, Pennaeth Oxfam Cymru:

"Mae Oxfam Unwrapped wedi datrys sawl pen tost pan yn chwilio am anrhegion Nadolig addas ac wedi gwneud gymaint o wahaniaeth tuag at gefnogi gwaith Oxfam. Yn ystod cyfnod pan mae pobl ishe gweld eu harian yn mynd yn bellach mae prynu anrheg Unwrapped yn ateb perffaith ag eleni gall hi ddim bod yn haws! Ry'n ni'n gobeithio codi mwy o arian fyth y Nadolig hwn".

Mae Catalog Oxfam Unwrapped ar gael yn holl siopau Oxfam yng Nghymru. Gallwch hefyd fynd at www.oxfamunwrapped.com.