Gwthio'r cwch, a Gordon, i'r dŵr! Ymgyrchwyr Oxfam yng Nghymru yn gwthio'r Prif Weinidog i'r cyfeiriad cywir
28 Ebrill 2009
Gwnaeth criw o ymgyrchwyr Oxfam Cymru ymgynnull ar ddibyn Bae Caerdydd ar ddydd Mawrth, er mwyn perswadio Gordon Brown i fwrw naid i'r dŵr ar newid hinsawdd. Mae ymgyrchwyr yn gwthio Brown i fynychu cyfarfodydd hollbwysig y Cenhedloedd Unedig (CU) yn Copenhagen ym mis Rhagfyr.
Mae'r ymgyrch Yma & Nawr yn glaw ar Brown i arwain y ffordd yn nhrafodaethau newid hinsawdd y CU er mwyn sicrhau fod pawb yn cael cytundeb teg a diogel i'w galluogi i herio cost ddynol newid hinsawdd.
Mae Oxfam eisoes yn gweld effaith newid hinsawdd ar y cymunedau y mae'n gweithio ynddynt mewn gwledydd ledled y byd. Mae miliynau o bobl prin yn ymdopi a'r goblygiadau. Maen nhw'n colli eu cartrefi, eu gwaith a'u bywydau.
Mae'r rhagolygon yn waeth: mae adroddiad newydd gan Oxfam yn darogan ymhen chwe' mlynedd bydd y nifer o bobl sy'n cael eu heffeithio gan drychinebau yn ymwneud â newid hinsawdd yn cynyddu 54 y cant i 375 miliwn o bobl y flwyddyn Mae hyn yn bygwth llethu'r sustem gymorth ddyngarol.

Dywedodd Aida Pesquera o Oxfam yn Colombia ac sy'n Bennaeth dros-dro Oxfam Cymru, a lansiodd ymgyrch Yma & Nawr yng nghysgod y Cynulliad: "Mae newid hinsawdd am bobl, ac mae pobl yn Colombia eisoes yn dioddef ac yn colli eu gwaith o'i herwydd. Dyw hi ddim yn yn ormod i ddweud, yng nghyfarfod y Cenhedloedd Unedig yn Rhagfyr, fod gan Gordon Brown ac arweinyddion eraill y byd y cyfle i achub bywydau a sicrhau dyfodol gwell i bawb, nid dim ond y gwledydd cyfoethocaf."
Mae Gregory Akall, yn fugail o ardal Turkana, yng ngogledd-orllewin Kenya, ac yn astudio MA mewn newyddiaduraeth ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e wedi gweld a theimlo effaith newid hinsawdd ar ei gymuned a'r bobl yno, ac mae'n rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch Oxfam Cymru. Meddai: " Fel bugail o Turkana, mae newid hinsawdd yn achos sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae fy nheulu a fy nghymuned wedi cael eu heffeithio'n ddybryd gan y newidadau yn y tywydd sy'n eu gwithio i'r eithafion pellaf o fodolaeth.
"Dwi wedi gweld cost dynol newid hinsawdd, ac mae'n dod yn amlwg i'r byd. Mae degau o gannoedd o fugeiliad yn Turkana wedi eu lladd a miloedd wedi gorfod symud o ganlyniad i wrth-ryfela rhwng y llwythi, sydd yn cael ei achosi yn rhannol gan dywydd fel sychder. Mae fy nghymuned i yn ddibynnol iawn ar gymorth bwyd ar ol colli eu holl anifeiliaid i'r sychderau sy'n amlach ac yn hirrach.
"Mae natur newid hinsawdd yn newid. Dyw e ddim yn dewis pobl gyfoethog neu pobl dlawd, gwledydd sydd wedi neu yn datblygu, ond mi fydd yn effeithio ar wledydd yn wahanol.
"Dyw newid hinsawdd ddim yn fater gwyddonol nac amgylcheddol ond mae e yn ddibynnol ar wleidyddiaeth. Dyna pam rwy'n annog Prydain, fel un o wledydd cyfoethocaf y byd i weithredu a newid ei agwedd Yma & Nawr..Pa mor aml oes cyfle i achub y byd? Mae gan arweinyddion glweidyddol y byd sy'n cwrdd yn Copenhagen ddiwedd y flwyddyn y pwer i ddewis, os ydyn nhw'n penderfynnu gwenud neu beidio. Felly mae'n hanfodol fod Gordon Brown yn sicrhau eu bod yn cymryd y cyfle cyn ei bod hi wedi canu arnom."
Gall bobl ymuno â'r ymgyrch a deisebu Gordon Brown yn uniongyrchol drwy fynd i www.oxfam.org.uk/hereandnow neu drwy tecstio 'Nawr' i 87099. Mae cyfraddau tecstio safonol yn gymwys.




