Lobi etholaethol GET FAIR, Mehefin 2009

9 Gorffenaf 2008
View this page in English
Yn bumed ar restr gwledydd cyfoethocaf y byd, mae'n anodd credu bod un o bob pump o bobl y DU yn byw mewn tlodi. Ond mae'n wir. Mae nifer o bobl na all fforddio hanfodion dyddiol megis gwres a dillad addas. Mae nifer o blant yn mynd i'r ysgol, neu i'r gwely, heb fwyta digon o fwyd.
Mae Cymru wedi'i heffeithio'n arbennig. Yn Adroddiad Blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003 ar Gynhwysiad Cymdeithasol yng Nghymru, cafodd ei disgrifio fel "gwlad sy'n dioddef mewn mannau o amddifadedd amlwg. Mae ardaloedd felly yn dioddef safonau isel o ran iechyd, cyrhaeddiad addysgiadol isel, camddefnyddio sylweddau, dibyniaeth ar fudd-daliadau a phrinder cyfleoedd cyflogaeth."
Dangosodd ffigurau Cartrefi Incwm Is na'r Cyfartaledd 2006/7 bod 29 y cant o blant Cymru yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan dlodi, ac nad oedd y dirwasgiad a'r wasgfa gredyd ddiweddar yn gwneud llawer i wella'r mater. Am y tro cyntaf mewn degawd, cododd diweithdra i 100,000, ac mae rhai cwmnïau yn troi at wythnosau gwaith pedwar diwrnod gan olygu bod gweithwyr yn colli un rhan o bump o'u cyflogau.*
Cynhaliodd grŵp Tlodi'r DU Oxfam Cymru astudiaeth ar effaith tlodi ar drigolion prifddinas Cymru. Unwaith eto tynnwyd sylw at y cysylltiad rhwng tlodi, dyled enfawr ac afiechydon meddyliol megis pryder ac iselder ysbryd. Casgliad yr adroddiad yw bod angen newidiadau i amrywiol ardaloedd polisi'r llywodraeth er mwyn sicrhau bod gwelliannau gwirioneddol, cynaliadwy yn digwydd.
Dyma reswm Oxfam Cymru dros gefnogi ymgyrch lobi etholaethol Get Fair ym mis Mehefin eleni. Mae Get Fair yn glymblaid o dros 50 o sefydliadau plant a phobl hŷn, grwpiau ffoaduriaid a phobl ag anableddau, grwpiau tai, grwpiau ffydd a chymunedol. Maent yn galw ar bob prif blaid wleidyddol i gyflawni eu hymrwymiad cyfredol i roi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, ac i ymestyn y nod hwn i daclo tlodi ledled bob cenhedlaeth yn y DU.
Cynhelir y lobi ASau ar 26-27 Mehefin. Er mwyn iddo fod yn llwyddiannus mae angen i bobl weithredu fel trefnwyr lleol, gan uno pobl o wahanol sefydliadau i gynllunio'r lobi. Cynhelir digwyddiad briffio yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Caerdydd rhwng 7 a 9 pm ar 24ain Ebrill. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, adnoddau, i gyfranogi fel trefnydd lleol neu i ddangos diddordeb, ffoniwch 0161 2369321 neu anfonwch ebost at info@getfair.org.uk.




