Oxfam yn Fyw 2009
21 Ebrill 2009

Oxfam yn Fyw yw'r lle i chi ddod i wybod mwy am y gwahaniaeth enfawr mae eich cefnogaeth yn ei wneud.
Mae teulu Oxfam yn ymestyn dros y byd i gyd, a cefnogwyr fel chi sydd yn Golan iddo. Dyna pam y carwn i chi ddod i un o'n digwyddiadau Oxfam yn Fyw. Dyma gyfle i ni ddweud diolch i chi - ac i roi gwybod i chi gymaint wahaniaeth ry'ch chi'n ei wneud.
Yng Nghymru, ry'n ni wedi trefnu wythnos lawn o ddigwyddiadau ym mis Mai, lle fydd Farhana Hafiz, sy'n gwithio i Oxfam yn Bangladesh, yn siarad am ei gwaith yno. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar drais yn erbyn merched a bydd hefyd yn siarad am effaith newid hinsawdd ar bobl yn y wlad.
Ond nid dyna'r diwedd hi! Bydd gennych chi gyfle i ofyn am unrhyw agwedd o waith Oxfam - yma yng Nghymru neu yn un o'r gwledydd lle rydym yn gweithio. A bydd hefyd gennych gyfle i gwrdd â chefnogwyr a gwirfoddolwyr eraill Oxfam a chael sgwrs dros baned Masnach deg.
Yn y bôn, dyma gyfle unigryw i gael cipolwg ar waith Oxfam, a gallwn ni ddod i'ch nabod chi'n well hefyd.
Eleni bydd digwyddiadau yn Aberhonddu, Abertawe, Aberyswyth, Aberhonddu, Bangor, Caerdydd, Hwlffordd, a Phorthmadog.
Felly os hoffech ddod, cofrestrwch drwy ddilyn y linc isod neu ffoniwch 0300 200 1269. Edrychwn ymlaen at eich gweld!
http://www.oxfam.org.uk/get_involved/oxfamlive/index.html




