Cynhadledd Chwiorydd ar y Blaned

9 Gorffenaf 2008
View this page in EnglishMae newid hinsawddyn effeithio ar bawb, ond mae newid hinsawdd yn effeithio'n arbennig ar bobl dlawd yn gyntaf, ac mae'n taro menywod yn galetach na neb.
Mae newidiadau eithafol i'r tywydd megis llifogydd, sychder, stormydd, tymheredd uwch a glaw anwadal yn cael eu teimlo fwyaf mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae menywod tlawd yn dibynnu mwy ar adnoddau naturiol, ac â llai o ffyrdd o amddiffyn eu hunain.
I daclo newid hinsawdd ar raddfa fyd-eang rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan drwy newid ein bywydau ein hunain ac annog ein cyfeillion a'n teuluoedd - a'r gwleidyddion sy'n gweithredu ar ein rhan - i wneud gwahaniaeth hefyd.
Mae Oxfam Cymru a'u partneriaid yn cydweithio gyda menywod yng Nghymru i godi eu lleisiau, a chreu'r newid y maent yn dymuno ei weld yn y byd.
Dewch i'n cynhadledd! Cliciwch ar y linc ar gyfer taflen a ffureflen archeb.




