Deffrwch! Oxfam Cymru yn ymuno i ddihuno'r byd
22 Medi 2009
Roedd ymgyrchwyr Oxfam Cymru ymysg y larymau a fu'n seinio am 12:18 pm ar Queen St, Caerdydd, ar ddydd Llun Medi 21 yn anfon neges uchel a chlir wrth oddi pobl Cymru bod angen i'r byd weithredu ar newid hinsawdd.
Death bron i gant o ymgyrchwyr at ei gilydd mewn man ym mhrifddinas Cymru I ychwanegu eu lleisiau at 'The Global Wake Up Call'.
Edrychwch ar y Fflashmob drwy glicio fan hyn http://www.youtube.com/watch?v=tQzM0x9z85A
Roedd y digwyddiad wedi'i anelu tuag at y cyfarfod pwysicaf un - Uwch Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen ym mis Rhagfyr. Dyma pryd fydd yr arweinyddion byd yn cyfarfod i benderfynu ar ein. Roedd larwm pawb yn canu am 12:18 yn dynodi dyddiad Rhagfyr 18fed : diwrnod olaf y trafodaethau tyngedfennol.
Bydd y 'Global Wake Up Call', a ddechreuodd yn Efrog Newydd ddoe, yn gweld miloedd o bobl mewn dinasoedd, trefi a phentrefi dros y byd yn uno i wneud swn enfawr ag anfon neges groch - un gall arweinyddion ddim o'i hanwybyddu.
Atal Anrhefn Newid Hinsawdd Cymru - grwp o elusennau a sefydliadau amgylcheddol, dyngarol a datblygu ynghyg ag undebau, grwpiau marched, cymunedol a crefyddol - a drefnodd y digwyddiad Deffro yng Nghaerdydd.
Dywedodd Julian Rosser, Cadeirydd Stop Climate Chaos Cymru, "Mae'r byd mewn trwmgwsg ac mewn peryg o gerdded i mewn i drychineb. Oni bai bod arweinyddion byd yn deffro go glou byddwn ni i gyd yn wynebu hunllef byw iawn. Ry'n ni yng Nghymru wedi seinio'r larwm, ry'n ni wedi neus swn mawr iawn ar Queen St i ddeffro arweinyddion byd i argyfwng newid hinsawdd."
Mae mis Medi yn llawn cyfarfodydd pwysig gyda'r G20 a'r Cenhedloedd Unedig, o Pittsburgh i Bangkok. Mae ymgyrchwyr yn dweud mai rhain fydd yn arwain y ffordd ag yn twymo'r ewyllys gwleidyddol tuag at Copenhagen ac maen nhw'n galw ar lywodraethau, yn enwedig mewn gwledydd cyfoethog, i ddihuno i'w cyfrifoldebau hanesyddol - fel y prif lygrwyr a'r rhai sydd a'r adnoddau i ddelio a'r sefyllfa.
Mae'r Global Wake Up Call yn galw ar arweinyddion i gytuno ar yr ariannu fel y gall y cyfarfod yn Copenhagen ym mis Rhagfyr gytuno cynllun newid hinsawdd byd-eang. Dywedodd ymgyrchwyr newid hinsawdd a ddaeth at ei gilydd yng Nghaerdydd heddiw fod angen addo arian I helpu gweldydd tlotaf y byd I addasu I'r bygythiadau presennol yn ogystal a'u helpu I ddatblygu mewn modd carbon isel. Mae rhaid I'r cytundeb fob yn DEG - UCHELGEISIOL - YMRWYMIEDIG.
Ychwanegodd Julian Rosser, "Gall arweinyddion y byd ddim claddu eu pennau mwyach a disgwyl I'r broblem ddiflannu. Mae newid hinsawdd yma ac mae'n wir. Mae amser ar ôl I adeiladu byd saffach a gwyrddach. Ond mae pobl Cymru wedi canu'r larwm - mae e yn nwylo arweinyddion y byd nawr. Os na fyddan nhw'n deffro fyddwn ni i gyd yn dioddef"





