Mae Oxfam yn cefnogi ymgyrch newydd tlodi tanwydd

19 Hydref 2009

View this page in English

Llun: Karen Robinson / Oxfam Cymru Rydym o'r farn na ddylai unrhyw un yng Nghymru orfod byw mewn cartref oer. Dyna pam yr ydym wedi cyfuno gyda sefydliadau allweddol yng Nghymru i ffurfio cynghrair ac wedi datblygu siarter tlodi tanwydd, er mwyn amlygu'r camau brys yr ydym ni'n ei gredu sydd eu hangen i gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru.

Rydym yn galw am:

- Gynllun gweithredu manwl sy'n nodi sut a pha bryd y gwaredir tlodi tanwydd yng Nghymru
- Cynorthwyo pob aelwyd tlodi tanwydd i aros yn gynnes - hyd y bydd tlodi tanwydd wedi ei waredu
- Ymagwedd gydgysylltiol ac unedig ar draws y sector statudol (ar lefel Cymru a'r DU) sy'n cynnwys partneriaid o'r sectorau preifat, gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymeradwyo'r siarter ac i weithredu blaenoriaethau'r polisi y mae'n ei gyflwyno fel pecyn cynhwysfawr er mwyn i bob aelwyd yng Nghymru elwa ar gysur cartref cynnes. Cyn bo hir, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio strategaeth tlodi tanwydd newydd i Gymru, a byddai'r gynghrair yn hoffi gweld y galwadau a amlinellir gennym yn ein siarter yn cael eu cynnwys yn y strategaeth hon.

Arweinir y gynghrair tlodi tanwydd gan Lais Defnyddwyr Cymru ac NEA Cymru, ac fe'i cefnogir gan grŵp llywio sy'n cynnwys amrywiaeth o sefydliadau allweddol yng Nghymru sy'n gweithio i ddatblygu'r agenda tlodi tanwydd. Mae'r rhain yn cynnwys: Cyngor ar Bopeth Cymru, Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Plant yng Nghymru, Ecoganolfan Gorllewin Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Shelter Cymru, Anabledd Cymru, Oxfam Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, NEA Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru.

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011