Rhoi Pwysau a Dwyn Perswad

17 Hydref 2009

View this page in English

Dwyn Perswad llun- Craig OwenAr benwythnos 16-18 Hydref daeth prosiectau gefeillio cymunedol Cymru/ Affrica at ei gilydd gyda Oxfam Cymru i sefyll i fyny yn erbyn tlodi yn Llandrindod. Ysgrifennodd cefnogwyr Oxfam Cymru ar hyd a lled y wlad i'w AS gan ymuno a dros 170 miliwn o bobl ar draws y byd a weithredodd er mwyn taclo tlodi.

Yn y flwyddyn 2000 gwnaeth arweinyddion y byd addewid i hanneri toldi byd eang erbyn 2015, drwy weithio tuag at Amcanion Datblygu y Mileniwm (Millennium Development Goals). Ar benwythnos 16-18 Hydref mae hefyd diwrnod y Cenhedloedd Unedig i ddileu toldi pan fo pobl ledled y byd yn adlewyrchu pa gynnydd sydd wedi bod tuag at y Amcanion Datblygu y Mileniwm yn ogystal a galw am weithredu pellach.

Er mwyn cyflawnu'r amcanion, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth y DU yn cadw at ei addewid o wario 0.7% o'i incwm cenedlaethol ar gymorth erbyn 2013. Dylid defnyddio'r arian cymorth hwnnw ar gyfer taclo toldi yn unig a dim arall.

Er bydd effeithiolrwydd yr addewid hwn yn cael ei danseilio os na fydd newid hinsawdd yn cael ei atal, gyda tymheredd yn codi yn achosi sychderau, llifogydd a heintiau yn lledaenu'n gynt ymysg pobl dlotaf y byd. Mae'n hanfodol fod llywodraeth y DU yn ymrwymo i dorri allyriannu CO2 o o leia 40% erbyn 2020 - nid ffug dorri lle fydd y DU yn gwrthbwyso ei allyriannau. Mae rhaid i hwn fod ynnychwanegol at gefnogi gwleydydd tlawd i ddatblygu mewn modd carbon isel.

Does gan bobl dlotaf y byd ddim llais yng ngwleidyddiaeth y DU, er bod eu bywydau a'u bywiolaethau yn aml yn ddibynnol ar benderfyniadau ein cynrychiolwyr. Dyna pam yr aeth ymgyrchwyr ati i roi pwysau ar Asau Cymreig i sicrhau fod y cyfreithiau sy'n cael eu pasio yn y DU yn cefnogi llwyddiant Amcanion Datblygu y Mileniwm, yn atal effeithiau gwaethaf newid hinsawdd ac yn cefnogi cymunedau tlotaf y byd i addasu i effeithiau newid hinsawdd maent eisoes yn eu profi.

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011