Taclo tlodi mewn steil

8 Hydref 2009

View this page in English

Boutique Caerdydd Elliott J. Frieze, cynllunydd dillad Cymreig, yn lansio boutique ffasiwn Oxfam yng Nghaerdydd gyda chefnogaeth rhai o sêr Cymru

Mae Boutique Oxfam wedi cyrraedd Caerdydd! Roedd lansiad arbennig ar nos Iau 8 Hydref gyda'r cynllunydd Cymreig Elliott J. Frieze yng nghwmni nifer o sêr Cymru yn y siop ei hun ar Stryd y Santes Fair, Caerdydd.

Dyma'r Butique cyntaf i agor y tu allan i Lundain ac mae'r siopau Oxfam hyn yn targedu pobl sydd a diddordeb mewn ffasiwn a effaith eu dillad ar bobl a'r amgylchedd.Maen nhw'n cynnig steil unigryw, dillad gwreiddiol a sicrwydd bod bob eitem yn codi arian i daclo toldi o amgylch y byd.

Esgidiau

Dywedodd Val Griffiths, Rheolwr Masnach Oxfam i Gymru, "Creu profiad siopa gwych sydd wrth wraidd y boutiques. Mae Oxfam wastad wedi bod yn le lle mae
pobl ffasiynol yn chwilio am eitemau diddorol i greu gwisg ac mae'r boutiques yn gwneud hynny'n haws. Mae ein cwsmeriaid wed i dweud wrthym eu bod nhw am brofiad siopa mwy cyfoes ac mae'r siopau hyn yn troi y syniad traddodiadol o siop Oxfam ben i waered"


Helpodd Elliott J Frieze, cynllunydd fasiwn o Gaerdydd sydd wedi modelu i Paul Smith a chael Yasmin le Bon, Lily Cole and Erin O'Connor yn modelu ei ddillad e yn Wythnos Ffasiwn Llundain, i lansio'r fenter gyffroes a newydd hon.

Dywedodd Elliott J Frieze, "Mae'n gyffroes iawn i fi i ddod nol i Gaerdydd i lansio menter ffasiwn mor arbenning. Dwi wedi gweld y boutiques yn Llundain a dwi'n meddwl eu nod nhw'n torri tir ym myd ffasiwn ethegol a chynaladwy. Mae yma ddillad ffantastig a diddorol sy'n gynlluniau unigryw yn cael eu gwerthu i godi arian i Oxfam. Mae pawb ar eu hennill!".

Cyhoeddodd Elliott J. Frieze hefyd y bydd yn rhoi pedwar dilledyn - yn cynnwys rhai i ferched a dynion - o'i gasgliad 'Premier collection' dan brand Elliott J. Frieze Brand wedi Wythnos Fasiwn Llundain yn Chwefror 2010

Boutique Caerdydd

Mae sawl seleb glam Cymreig, gan gynnwys Cerys Matthews, Amy Wadge, a Sarra Elgan, wedi rhoi dillad i'r siop ar gyfer yr agoriad.

Dywedodd Sarra Elgan "Dwi'n gyffroes iawn am agoriad y Boutique Oxfam cyntaf yng Nghaerdydd. Dwi'n caru ffeindio dillad 'designer' sy'n fargen ac mae'r math yma o boutiques dillad ail-law yn llwyddiannus iawn mewn dinasoedd fel Llundain ac Efrog Newydd - felly mae cael un ar ein stepen drws lle allwn ni ddod o hyd I bethau unigryw a helpu eraill mewn ffordd fach yn ffantastic - dwi'n siwr y bydda I a fy ffrindiau yn mynd yno'n aml!

Ac mae Lucy Owen, cyflwynwraig rhaglen newyddion BBC Wales Today a X-Ray ar gyfer BBC Cymru Wales, wedi rhoi ffrog Julien Macdonald i Boutique Oxfam yng Nghaerdydd.

Dywedood Lucy Owen, "Mae hwn yn syniad gret - siopa boutique am achos da. Dyma'r math o le allwch chi ffeindio dillad gwych a gwreiddiol. Mae'n gyffroes iawn mynd i rywle fel hyn, 'dych chi byth yn gwybod pa fath o drysorau byddwch yn gallu cael."

Model

Hefyd yn ystod y noson lansio dangoswyd eitemau newydd sbon wedi'u creu gan fyfyrwyr fasiwn sy'n dilyn cwrs Cynllunio Ffasiwn BA (Hons) ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae'r eitiemau wedi'u gwneud o doraeth o decstiliau wedi'u rhoi i Oxfam o ffrodiau swanc i ddillad gwely! Byddan nhw ar werth yn y Boutique yng Nghaerdydd. Dyma brosiect cyntaf y bartneriaeth rhwng Oxfam a myfyrwyr fasiwn Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Bydd y Boutique yn gwerthu dillad, gemwaith, esgidiau, bagiau ag ati sy'n gymysgedd o eitemau o'r ansawdd uchaf, dillad wedi'u ail-steilio, Masnach Degc a ffasiwn newydd gynnaladwy.