Fflipin Fflip! Cyfle i ennill Camero fideo Flip

4 Tachwedd 2009

View this page in English

Campaigning polar bears Picture by Ng Swan Ti Mae amser yn hedfan - a dim ond dros mis i fynd tan Copenhagen. Ond cyn hynny mae un foment fawr : Y Don - fydd yn dod a 100,000 o bobl ynghyd ar Ragfyr 5ed i wrthdystio ar strydoedd Llundain a galw ar y llywodraeth ac arweinddyion y byd i sicrhau cytundeb byd-eang sydd ei angen ar newid hinsawdd. Ry'n ni am weld miloedd o bobl o Gymru yn cymryd rhan - a gallwch chi helpu!

Mae Oxfam Cymru wedi lansio cystadleuaeth fideo i hyrwyddo Y Don. A ry'n ni'n gofyn i chi gyfarwyddo fflim fer eich hun - doniol, gwirion, creadigol, emosiynnol - be bynnag ry'ch chi'n meddwl fydd yn tynnu sylw pobl ac yn eu annog i ddod i Lundain ar Ragfyr 5ed.
Rhowch y fideo ar youtube a'r enillydd fydd pwy bynnag sy'n cael y nifer mwya o wylwyr!

Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau am y gystadleuaeth fan hyn.

Anfonwch y linc o'ch fiedo ar youtube i ni (bharper@oxfam.org.uk) erbyn hanner dydd ar 27 Tachwedd.

Am fwy o ysbrydoliaeth edrychwch ar rai sy 'di cael eu gwneud yn barod - ond ry'n disgwyl pethe gwell wrthoch chi! New page

Bydd bysus yn cael eu trefnu i fynd o Gymru I Lundain ar Ragfyr 5ed - i gadw sedd cysylltwch â kate@stopclimatechaos.org

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011