Menywod a'r Broses Lloches: Beth yw'r sefyllfa?

18 Gorffenaf 2008

View this page in English

Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bydd Oxfam Cymru yn edrych yn ôl ar lwyddiannau'r flwyddyn gyntaf mewn cynhadledd flynyddol yn dathlu'r prosiect tair blynedd i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches benywaidd yn ne Cymru.

Cynhelir y gynhadledd - Menywod a'r Broses Lloches: Beth yw'r sefyllfa? yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 10 Rhagfyr, gan uno pobl a mudiadau sydd wedi cefnogi neu dderbyn cefnogaeth prosiect Menywod sy'n Ceisio Lloches yng Nghymru.

Ymysg prif siaradwyr y digwyddiad mae:

- Kirsty Williams AC - Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

- Jane Farleigh - Cyfarwyddwr Asiantaeth Ffiniau'r DU, Cymru a'r De Orllewin

- Debora Singer - Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Asylum Aid

- Mark Isherwood AC - Llefarydd yr Wrthblaid ar Gyfiawnder Cymdeithasol

- Chris Johnes - Pennaeth Oxfam Cymru

- Kate Smart - Cyfarwyddwr Polisi, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Hefyd, bydd neges fideo bersonol oddi wrth Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Mae'r prosiect, gyda chefnogaeth Cronfa Loteri Fawr, yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector statudol a gwirfoddol i ddarparu hyfforddiant a gweithgareddau cefnogol sy'n galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches benywaidd, bregus, i gael hyder i gyfranogi'n fwy llawn mewn cymdeithas.

Ymysg uchafbwyntiau'r flwyddyn ddiwethaf:

- Sefydlwyd chwe chanolfan galw i mewn ar gyfer menywod yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd

- Yn sgil gweithdai preswyl a dyddiol, crëwyd tri deg o hyrwyddwyr cymunedol benywaidd i gefnogi cyd ffoaduriaid a cheiswyr lloches benywaidd

- Dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol Menywod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chynrychiolwyr menywod o'r dair dinas yng Nghymru

- Bu 30 o fenywod yn lobïo llywodraeth y DU yn Llundain dros decach penderfyniadau yn y broses lloches

- Cynhaliwyd pedwar gweithdy diwrnod o hyd ar gyfer mudiadau sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn hyrwyddo arfer da

Am fwy o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â swyddfa Oxfam Cymru ar oxfamcymru@oxfam.org.uk

Cysylltiadau Perthnasol

Cysylltiadau Perthnasol

Hafan Oxfam Cymru
Oxfam Cymru (English)
Calendr Digwyddiadau
Cysylltwch ag Oxfam Cymru
Ein gwaith

Straeon Diweddar

Straeon Diweddar

oxfam6-75.jpgFairbridge yn dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli newid ym mhobl ifanc ar draws Cymru
6 October 2011

Credit: Jen HasteCodi twrw tra'n coi arian: Oxjam yng Nghaerdydd!
29 September 2011

67513scr-75.jpgWyneb tu ôl i'r ffigurau: Ffermwr o Wganda yn adrodd ei stori
27 September 2011

Credit: OxfamRhuthr newydd dros dir yn gwthio miloedd i dlodi pellach
22 September 2011