Dai y Draig yn Denmarc
15 Rhagfyr 2009

Gwnaeth Oxfam Cymru yn siwr fod llais pobl Cymru wedi cael ei glywed yn glir yn yng Nghynhadledd Hinsawdd y CU sy'n digwydd yn Copenhagen ar hyn o bryd.
Aeth Stop Climate Chaos Cymru, y mae Oxfam Cymru yn aelod ohono, a draig las 18 troedfedd o'r enw Dai i gynrychioli dymuniadau pobl Cymru a Chynulliad Cymru i weld cytundeb teg, uchelgeisiol ac ymrwymiedig i gael ei greu erbyn diwedd y gynhadledd.
Dechreuodd taith Dai yng Nghanolbarth Cymru, lle cafodd ei greu gan brosiect celf CARAD yn ystod tri gweithdy cymdeithasol. Teithiodd i Gaerdydd i gyfarfod Aelodau Cynulliad, gan gynnwys y Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson.
http://www.facebook.com/album.php?aid=140776&id=579901624&l=0428d502ad
Ym mis Tachwedd cytunodd y Cynulliad, heb wrthwynebiad, i gefnogi galwadau ar wledydd cyfoethog i dorri eu allyriadau carbon o 40% erbyn 2020 - yn unol a beth sydd angen ei wneud er mwyn cadw newid hinsawdd rhag lefelau peryglus.
Ymunodd Dai a pumdeg mil o bobl o Brydain ar Ragfyr 5 i amgylchynu Senedd a galw ar Lywodraeth y DU i arwain y ffordd i dorri allyriannaua darparu arian i helpu gwledydd tolotaf y byd i addasu i newid hinsawdd.
http://www.facebook.com/album.php?aid=142269&id=579901624&l=bcd73f9127
Ar 12 Rhagfyr cyrrhaeddodd Dai yn Copenhagen ymghyd ag ymgyrchwyr Oxfam Cymru i orymdeithio pedair milltir o Senedd Denmarc i ganolfan Bella, lle mae trafodaethau y CU yn cymryd lle.
http://www.facebook.com/album.php?aid=143143&id=579901624&l=4f2b79b1c5
Wrth i gan mil o bobl dywallt drwy strydoedd prifddinas Denmarc roedd y ddraig las yn denu tipyn o sylw gan wrthdystwyr, yr heddlu a gwleidyddion yn galw ar wleydydd cyfoethog i beidio ag oedi rhag cytuno ar bederfynnu pa weithredoedd sy dd eu hangen er mwyn cyrraedd cytundeb arloesol.






