Sesiynau Hinsawdd - Dyddiadau Newydd
12 Chwefror 2010

Wedi'r Sesiynau Hinsawdd llwyddiannus ar draws Cymru llynedd, mae Oxfam yn cynnal dau o ddigwyddiadau arall i alluogi pobl De a Gorllewin Cymru i ddatgan eu pryderon a phrofiadau ynglŷn â'r newid mewn hinsawdd.
O Arberth i Nairobi, mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bobl. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle unigryw i rannu eich pryderon a phrofiadau. Gan gasglu'r profiadau cyfrannol, mae Oxfam yn medru defnyddio'r tystiolaethau hyn i roi pwysau ar y rheiny sydd mewn grym er mwyn iddynt weithio tuag at newid ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae gennym amrywiaeth o siaradwyr yn mynychu'r ddau ddigwyddiad, i ymdrin ag amrywiaeth o destunau gan gynnwys prosiectau yn ymwneud â datblygiad cynaliadwy lleol, rhewlif ansefydlog a thwf mewn lefelau'r môr, a phrosiectau yn ymdrin â chynhaliaeth gynaliadwy yn y gwledydd datblygol.
Mae'r rhain yn ddigwyddiadau agored ac rydym yn eich gwahodd i ddod a gwrando ar brofiadau eang, gofyn cwestiynau ac os dymunwch gyfrannu eich profiadau personol chi.
Manylion y digwyddiadau:
Ble: Canolfan y Pictwn, Hwlffordd
Pryd: Nos Fawrth yr ail o Fawrth, rhwng 7 a 9 yyh.
Siaradwyr yn cynnwys: Nguyen Quang Minh (Cydlynydd rhaglen Gynhaliaeth Oxfam yn Fietnam), Cathryn Al Kanaan (Aelodau`r Suzani), a Tavi Murray (Prifysgol Abertawe).
Ble: Amgueddfa Abertawe, Abertawe
Pryd: Nos Iau 11eg o Fawrth, rhwng 7 a 9 yyh
Siaradwyr: Nguyen Quang Minh (Cydlynydd rhaglen Gynhaliaeth Oxfam yn Fietnam), a Uzo Uwobi ( Cadeirydd Canolfan y Gymdeithas Affricanaidd).
Mi fydd te, coffi a bisgedi yn cael eu dosbarthu. Mi fydd presenoldeb yn rhad ac am ddim a ni fydd angen neilltuo eich lle.
Am ragor o wybodaeth a wnewch chi ymweld â:
http://climatehearings.org/
http://www.oxfam.org.uk/get_involved/campaign/climate_change/






