Treth Robin Hood - troi argyfwng y banciau yn gyfle i'r byd
12 Chwefror 2010

Stopiwyd siopwyr Caerdydd yn stond heddiw (dydd Iau 11 Chwefror) wrth i fancwyr mewn siwtiau ddechrau dawnsio i gan Abba - Money, Money, Money er mwyn cefnogi
Treth Robin Hood , all godi cannoedd o biliynau o bunnoedd I daclo tlodi, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Mae'r ymgyrch yn galw ar arweinwyr pleidiau gwleidyddol y DU i gefnogi treth fyd-eang - Treth Robin Hood - ar weithrediadau ariannol banciau all godi cannoedd o biliynau o bunnoedd er mwyn helpu trwiso'r difrod mae'r argyfwng economiadd wedi ei achosi i ddynoliaeth. Mae'r ymgyrch yn cael ei gefnogi gan gasgliad o elusennau gwladol, asiantaethau cymorth, undebau, mudiadau ffydd a grwpiau gwyrdd.
Dywedodd Chris Johnes, Pennaeth Oxfam Cymru, "Ddylai'r rheiny sydd wedi achosi'r argyfwng economaidd orfod clirio'r llanast mae nhw wedi creu. Mae Treth Robin Hood yn ffordd allwn ni droi creisis yn gyfle i'r byd. Bydd y dreth bitw hwn ar fancwyr yn codi biliynau o bunnoedd i daclo tlodi a newid hinsawdd yn ein gwlad ni a thramor."
Roedd y Bancwyr yn dawnsio yn un o nifer o ddigwyddiadau yn cymryd lle ledled Prydain i dynnu sylw a ennyn cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer y Dreth. Mae'r cyhoedd wedi dangos cefnogaeth eisoes ar gyfer Treth Robin Hood, yn ôl arolwg barn gan YouGov ar gyfer Oxfam, gyda bron dwywaith gymaint o bobl o blaid y polisi nag yn erbyn. Dyma hefyd hoff ddewis y cyhoedd ar gyfer mynd ati i leihau y diffyg ariannol - ymhell o flaen lleihau gwariant cyhoeddus neu godi dreth incwm, TAW neu dreth gorfforaeth. Yn wynebu diffyg ariannol o 12 y cant, bydd y llywodraeth nesaf yn wynebu dewis anodd iawn - codi trethu eraill megis treth incwm neu TAW, torri gwasanaethau, neu drethi'r banciau. Cred yr ymgyrch mai Treth Robin Hood yw'r syniad iawn ar yr amser iawn.
Ni fydd Treth Robin Hood yn trethi gweithrediadau'r banciau gyda'u cwsmeriaid stryd fawr, dim ond gweithrediadau ariannol rhwng sefydlioadau ariannol fydd yn cael eu heffeithio. Byddant yn dechrau yn bum ceiniog o bob mil fydd yn cael ei drafod - cyfartaledd o 0.05 y cant.
Ond byddai trethi cyn lleied a hyn yn codi cannoedd o biliynau o ddoleri y flwyddyn oherwydd gymaint o drafodaethau. Mae arbenigwyr wedi amcangyfrif byddai treth trafod arian rhyngwladol o'r fath yn gallu codi gymaint a £250bn ($400bn) bob blwyddyn.
Gallwch ddilyn ein Ymgyrch Treth Robin Hood ar ein gwefan www.robinhoodtax.org.uk
Neu ar Twitter @robinhood






