Oxfam Cymru (Welsh version)
Ysgol Cadeirlan Wells
02 Chwefror 2012
View this page in English
Bydd cerddorfa symffoni adnabyddus Ysgol Cadeirlan Wells yn ymweld â Chaerdydd nos Iau 9 Chwefror am 7.30 yh i berfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dan arweiniad Christopher Adey, byddant yn cyflwyno rhaglen gynhyrfus o ffefrynnau symffonig gan gynnwys Pumed Symffoni Sibelius, Concerto Rhif 3 i'r Feiolin gan Saint-Saëns (feiolin - Jeremy Hao) a'r gerdd symffonig Prentis y Dewin gan Dukas.
Fe gynhelir casgliad wrth i'r gynulleidfa ymadael er lles Oxfam.  Dywedodd Charlotte Osman-Loxley, gweinyddydd y gyngerdd, "Rydym wedi ymrwymo fel cerddorfa i godi arian i ddibenion elusennol. Dewisom Oxfam am sawl rheswm, ond yn bennaf oherwydd bod gennym ffydd yn y gwaith y mae Oxfam yn ei wneud, nid yn unig ledled y byd ond ar raddfa leol hefyd yn ein trefi ein hunain."
Mae tocynnau (£8, £7, £6, myfyrwyr £3.50) ar gael o swyddfa docynnau Ysgol Cadeirlan Wells ar 01749 834483 neu drwy e-bostio i concerts@wells-cathedral-school.com
Angen Gwirfoddolwyr ar Oxfam
25 Ionawr 2012
View this page in English
Mae 2012 yn Flwyddyn Ryngwladol Cydweithfeydd y Cenhedloedd Unedig, ac yn ffodus i Oxfam Cymru mae'r Co-operative yng Nghymru wedi ein dewis fel un o'u dau bartner elusen am y flwyddyn.
Mae hynny'n golygu y bydd staff, cwsmeriaid a siopau'r Co-op ledled Cymru yn codi arian drwy gydol y flwyddyn i gefnogi un o'n prosiectau wedi'i seilio ar gydweithfa yn Ethiopia, ynghyd â prosiect sy'n cael ei redeg gan Dolen Cymru yn Lesotho, sef eu partner elusen arall eleni.
Yn ogystal â chodi arian i wella bywydau pobl, mae hyn yn gyfle arbennig o dda i ni dynnu sylw at Oxfam - ein gwaith a'n lwyddiannau!
Er mwyn helpu i ledaenu'r neges, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a fyddai'n hapus i ymweld â'u siopau  Co-op lleol i annog rheolwyr a staff i godi arian. Nid oes angen profiad o godi arian, dim ond brwdfrydedd dros Oxfam a'n gwaith, a pharodrwydd i siarad gyda phobl eraill amdano.
Chi fydd yn penderfynu faint o siopau yr hoffech ymweld â hwy, ond rydym wedi trefnu ambell sesiwn er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol gennych:
Dydd Iau 16 Chwefror, 6.30-8.00pm Swyddfa Oxfam Cymru, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AT
Dydd Mercher 22 Chwefror, 6.30-8.00pm Tŷ Gwydr, 1 Trevelyan Terrace, Bangor LL57 1AX
Dydd Iau 23 Chwefror, 6.30-8.00pm Gwesty'r Boars Head, 120 Heol Awst, Caerfyrddin, SA31 3AE
Os hoffech fynd i un o'r sesiynau, anfonwch e-bost at Lorraine Rees ar lrees@oxfam.org.uk erbyn dydd Gwener 10 Chwefror, er mwyn i ni sicrhau bod digon o de a bisgedi i bawb!
Mae 2012 yn Flwyddyn Ryngwladol Cydweithfeydd y Cenhedloedd Unedig, ac yn ffodus i Oxfam Cymru mae'r Co-operative yng Nghymru wedi ein dewis fel un o'u dau bartner elusen am y flwyddyn.
Aelodau Bwrdd Ieuenctid Oxfam yn gweithredu i sicrhau addysg i bawb
Dyma Rebecca Miller, Shane Bear a rhai o aelodau eraill y Bwrdd Ieuenctid yn adlewyrchu ar ddigwyddiadau'r diwrnod...
Daeth aelodau Bwrdd Ieuenctid Oxfam Cymru at ei gilydd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn ystod mis Rhagfyr. Thema ein cyfarfod oedd "Addysg I Bawb". Trafodom y ffaith fod 67 miliwn o blant ledled y byd yn colli allan ar addysg ar hyn o bryd, felly mae'n amlwg fod llawer o waith ar ol i'w wneud os yr yw'r byd am gyrraedd y targed o addysg gynradd i bob plentyn erbyn 2015. Dysgom fod dros hanner y plant sydd yn colli allan ar addysg yn ferched, mae traean yn byw gydag anabledd ac mae hanner yn byw mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan ryfel a gwrthdaro, fel Afghanistan.
I dynnu sylw at hyn, penderfynom greu cadwyn o ddoliau papur. Roedd y doliau unai'n ein cynrychioli ni neu'n cynrychioli merch sydd ddim yn derbyn addysg. Roedd swigen siarad wedi ei gysylltu i bob dol. Yn y swigod, ysgrifennom negeseuon at ein Aelodau Seneddol i'w hannog i gefnogi'r Ymgyrch Fyd-Eang dros Addysg ac i sicrhau fod Prif Weinidog y DU yn gwneud popeth o fewn ei allu i berswadio arweinwyr eraill y byd i wneud yr un fath. Ar ddiwedd y cyfarfod, roeddem i gyd wedi ein hysbrydoli i gymryd rhan yn yr ymgyrch "Danfona Fy Ffrind i'r Ysgol" flwyddyn nesaf ac rydym yn gobeithio y bydd ein hysgolion yn cymryd rhan hefyd!
Oxfam Cymru yn dweud bod trafodaethau newid hinsawdd Durban yn "siomedig iawn"
Cafwyd cytundeb yn nhrafodaethau Durban, ond nid yw'n ddigon uchelgeisiol i atal canlyniadau poenus i bobl dlawd ledled y byd.
Wrth i ni ystyried canlyniad trafodaethau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Durban yn gynharach yn y mis, credwn i'r cynadleddwyr fethu dangos yr uchelgais sy'n angenrheidiol i dorri allyriadau carbon i lefelau a fyddai'n cyfyngu cynnydd tymheredd byd eang o dan 2°C, ac osgoi newid hinsawdd peryglus.
Dywedodd Stephen Doughty, pennaeth Oxfam Cymru, "Yr unig ffordd o ddisgrifio trafodaethau Durban yw siomedig iawn.  Mae cynadleddwyr wedi anfon neges glir i bobl newynog y byd: 'gadewch iddynt fwyta carbon'.
"Nawr rhaid i Gymru, gyda gweddill y DU ac Ewrop, barhau i arwain y ffordd tuag at ddyfodol cynaliadwy - hyd yn oed os yw'r cytundeb hwn yn cael ei gyflawni.  Rhaid i Gymru gael arweiniad gan Lywodraeth Cymru, ac nid yw'n amlwg pa mor effeithiol yw hyn cyn belled.  Bydd ein llygaid ar y Mesur Datblygu Cynaliadwy y flwyddyn nesaf ac ar y Mesur Amgylchedd - rydym am weld targedau clir wedi'u gosod yn y ddau."
Arweiniodd trafodaethau hinsawdd Durban at gytundeb sy'n ymrwymo pob gwlad - yn cynnwys y prif rai sy'n llygru, yr UDA a China - i drafod cytundeb cyfreithiol ar dorri allyriadau erbyn 2015.  Fodd bynnag, ni fydd y cytundeb yn dod i rym nes 2020, ar ôl degawd lle nad yw'r toriadau gwirfoddol mewn allyriadau sydd eisoes wedi'u hymrwymo gan wledydd  yn cyfateb i'r hyn y mae gwyddonwyr yn ei ddweud sy'n angenrheidiol i osgoi lefelau peryglus o newid hinsawdd.
Ychwanegodd Mr Doughty, "Bydd y methiant i ddod i gytundeb uchelgeisiol yn arwain at ganlyniadau poenus i bobl dlawd ledled y byd. Gall cynnydd tymheredd o 4°C olygu dinistr llwyr i ffermwyr tlawd a fydd yn wynebu newyn a thlodi cynyddol. Gall ffermwyr mewn rhannau o Affrica wynebu cwymp o dros 50% yn eu cnydau o fewn y genhedlaeth hon neu'r nesaf.  Gall prisiau bwyd fwy na dyblu o fewn y ddwy ddegawd nesaf, hyd at hanner hynny wedi'i achosi gan newid hinsawdd."
Darllena ymateb Oxfam Cymru i Gyllideb Cymru.
Galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos sut fydd y gyllideb o gymorth i bobl a chymunedau mwyaf bregus Cymru.
Croesawodd Oxfam Cymru y cytundeb rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y gyllideb yr wythnos yma i dargedu gwariant ar ddisgyblion mwyaf difreintiedig drwy Grant Amddifadedd Disgybl. Serch hynny, mae'n rhaid I Lywodraeth Cymru sicrhau nawr fydd yr arian hyn yn cael ei ddenfyddio er budd y digyblion sydd I fod I'w derbyn - fel arall mae risg y byddant yn methu gwireddu eu pwrpas sylfaenol.
"Mae'n rhaid i'r arian gyrraedd ben ei thaith a pheidio mynd ar goll ar y ffordd", meddai Stephen Doughty, Pennaeth Oxfam Cymru, "Un ffordd o sicrhau y byddai hyn yn digwydd byddai i Leighton Andrews AC ac yr awdurdodau lleol yng Nghymru i ariannu prosiectau fyddai'n darparu cefnogaeth benodol i ddisgyblion o gefndiroedd tlawd sydd mewn peryg o dangyflawni yn ddifrifol yn yr ysgol. Mae rhaglen 'Nurture' yn Duffryn yng Nghasnewydd yn enghraifft berffaith o'r math yma o brosiect sydd mewn peryg ar hyn o bryd oherwydd y toriadau mewn gwariant - er gweathaf ei botensial am ddod a buddiannau enfawr yn y tymor hir i'r plant unigol a'u teuluoedd."
Mae'r rhaglen - drwy Duffryn Comunity Links - yn cefnogi rhieni a phlant sydd wedi profi sawl anhawster gwahanol ac angen 'Nurture' ynghyd a'u haddysg gyffredin. Yn aml iawn mae'r plant hyn wedi colli'r camau o ddatblygiad cynnar mewn bywyd ac angen y cyfle i'w ailfyw. Ewch i wefan Duffryn Community Links i ddysgu mwy.
Rydym hefyd yn croesawu yr arian ychwanegol ar gyfer sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru ac yn gobeithio y caiff hwn ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad sgiliau ar gyfer economi werdd. Ategodd Stephen Doughty, "Mae'n galonogol gweld y pwyslais ar fuddsoddi mewn swyddi a sgiliau yn y gyllideb gymreig. Y prawf mawr fydd a fyddant yn ein helpu i drawsnewid i economi werdd fydd yn rhoi Cymru ar drywydd dyfodol llewyrchus a charbon isel."
Er gwaethaf  yr agweddau arbennig o'r gyllideb, mae gan Oxfam Cymru bryder mwy cyffredinol am sicrhau y bydd y gyllideb yn gweithio ar gyfer rheiny sydd fwya bregus yn y cyfnod economiadd ansicr hwn.
Anfonwch ddafad o Gymru at rywun fydd yn ei gwerthfawrogi y Nadolig hwn!
Ydych chi'n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig? Beth am ddewis rhodd sy'n rhoi ddwywaith?
Bydd anifail enwocaf Cymru yn siŵr o godi gwên dros y Nadolig.  Dim digon o le yn yr ardd?  Wel peidiwch â phoeni, mae'r ateb gan Oxfam: byddwn yn rhoi cartref i'ch creadur gwlanog lle bydd yn cael ei werthfawrogi.  Bydd yn sicr o wella rhagolygon teulu mewn gwlad arall.  Gall defaid ffynnu mewn amrywiol amgylcheddau, gan gynhyrchu llaeth a digonedd o wrtaith ar gyfer cnydau.  Bydd eich cyfaill, perthynas neu gydweithiwr yn derbyn cerdyn y gallwch ei bersonoli gyda'ch neges eich hun; a fydd hefyd yn egluro sut mae'r anrheg yn newid bywydau pobl.
Yn Gitovu, gogledd Rwanda, er enghraifft, mae Oxfam wedi cyflwyno cynllun cyfnewid da byw cymunedol. Mae Anastase Habumukiza a'i wraig Angelina wedi cael budd o'r cynllun hwn ers amser.  Eglura Anastase "Derbyniais ddafad, ac fe gafodd ŵyn bach, nawr mae gen i 11. Mae'r defaid yn help wrth drin fy nhir. Mae'n fwy ffrwythlon nag erioed. Nawr mae gen i arian i dalu am ofal iechyd ac i ofalu am fy nheulu."
"Mae'r defaid wedi newid fy mywyd. Nawr gallwn fwyta unrhyw beth. Gallwn fwyta llysiau a hadau yr ydym yn eu tyfu, neu gallaf ddefnyddio'r arian a gaf am werthu fy nghnydau i brynu pethau yn y farchnad."
Llwyddo i gyrraedd £2 filiwn wrth i siop Oxfam Casnewydd ddathlu 40 mlwyddiant
Trowsus llydan, esgidiau platfform a theis 'kipper' oedd ym mhobman pan agorodd drysau siop Oxfam Casnewydd am y tro cyntaf ar 1 Rhagfyr 1971...
Mae siop Oxfam Casnewydd yn dathlu 40 mlynedd o fasnachu heddiw, a'r tiliau yn canu gyda'r cyfanswm anhygoel o £2 filiwn a godwyd ar gyfer ein gwaith ledled y byd.  Heddiw mae'r clociau wedi'u troi yn ôl ar gyfer dathliad yn arddull y 70au, gyda staff a gwirfoddolwyr yn gwisgo dillad y 70au.
Dywedodd Gary Farr, rheolwr y siop, "Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig iawn ar ein cyfer ni i gyd yn y siop ac yng Nghasnewydd. Mae cadw'r siop ar agor am dros bedair degawd yn llwyddiant anhygoel - ac yn fwy felly pan rydym yn dibynnu ar gyfraniadau caredig y cyhoedd ac amser gwerthfawr gwirfoddolwyr lleol i gynnal y siop. Dylem ni, a Chasnewydd, fod yn falch iawn."
Ychwanegodd, "Mae ymroddiad gwirfoddolwyr a chefnogaeth pobl Casnewydd dros y blynyddoedd wedi golygu i ni fedru codi swm anhygoel o arian ar gyfer gwaith Oxfam sy'n newid bywydau ledled y byd. Mae'r arian a godwyd wedi helpu plant tlotaf y byd i fynd i'r ysgol, wedi helpu teuluoedd i gael gofal iechyd ac wedi adeiladu ffynhonnau dŵr er mwyn i bobl gael dŵr glân i'w yfed."
Mae aelodau'r grŵp o Gasnewydd, Goldie Lookin Chain hefyd wedi anfon negeseuon yn llongyfarch y siop ar yr achlysur pwysig hwn.
Dywedodd Adam Hussain "Llongyfarchiadau! Mae codi dwy filiwn o bunnoedd i Oxfam dros ddeugain mlynedd yn llwyddiant ardderchog! Rwy'n gefnogwr brwd i waith Oxfam, ac rwy'n hoffi galw i mewn i'r siop i brynu ambell ddilledyn hamdden gwahanol. Rwy'n clywed bod Snoop Dogg yn hoffi Oxfam hefyd. Mae wedi dilladu hip hop ers blynyddoedd!!"
O Gymru i Affrica: galw am undod dors yr hinsawdd
Ymgyrchwyr yn galw ar Aelodau Cynulliad i ddweud wrth arweinwyr y byd fod pobl Cymru eisiau gweld gweithredu o ddifri ar newid hinsawdd.
Ddoe bu rhai o gefnogwyr Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn cwrdd â John Griffiths, Gweinidog Cymru dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a rhai o Aelodau eraill y Cynulliad, fel rhan o'r digwyddiad Cysylltiad Hinsawdd Affricanaidd. Wrth i gerddorion Affricanaidd eu diddannu, aeth Aelodau'r Cynulliad ati i lofnodi dail i'w hychwanegu at goeden Baobab, gan anfon neges i arweinwyr y byd i leihau allyriadau, ac i ddarparu cyllid er mwyn i wledydd tlotaf y byd allu addasu a datblygu mewn ffordd gynaliadwy. Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgyrch ledled y DU sy'n gweld cannoedd o bobl yn trefnu digwyddiadau lleol yn ystod trafodaethau newid hinsawdd y CU yn Durban, De Affrica, yr wythnos hon.
Dywedodd Haf Elgar, Cadeirydd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, "Rydym yn anfon neges gref o risiau'r Senedd i arweinwyr y byd yn Durban bod Cymru'n dymuno gweld camau gwirioneddol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae gan Gymru hanes balch o undod rhyngwladol ac o gefnogi gwledydd sy'n datblygu, ac rydym hefyd wedi arwain y ffordd wrth osod targedau lleihau allyriadau blynyddol."
Ychwanegodd Elgar, "Mae arweinwyr y byd angen clywed bod y byd yn galw am gytundeb gadarn i helpu'r gwledydd tlotaf i addasu i effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes yn digwydd. Gyda llifogydd a sychder eisoes yn dinistrio cymunedau ar draws y byd, a niwed amgylcheddol yn difrodi ein planed, gallai unrhyw oedi pellach olygu trychineb i ni i gyd. "
Ymgyrchwyr Oxfam yn creu argraff ardderchog ar wleidyddion Cymru
Mae aelodau Cymdeithas Oxfam Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn brysur yn adeiladu perthynas gyda gwleidyddion yng Nghymru.  Steve Smith o Oxfam Cymru sy'n holi mwy...
Yn gynharach y mis hwn, galwodd Mark Williams AS mewn bore coffi yn Llanon.  Cymerodd Cliodhna Skerrett o Gymdeithas Oxfam Prifysgol Aberystwyth y cyfle i siarad gydag ef am eu gwaith ymgyrchu.
"Mae Mr. Williams wedi bod yn arbennig o gefnogol i waith Oxfam yn y gorffennol," meddai Cliodhna, "Cefnogodd ymgyrch iechyd mamau'r Gymdeithas yn y gwanwyn eleni.  Mae hefyd yn awyddus iawn i'n cefnogi gyda'n prosiectau addysg, yn rhannol yn sgil ei gefndir fel athro ysgol gynradd. "
Mae Cliodhna a Mr. Williams yn awyddus i'w sgwrs fod yn rhan o berthynas waith tymor hir.  "Mae'n frwd iawn dros ein cefnogi," ychwanegodd Cliodhna, "Gofynnodd i ni gadw mewn cysylltiad, ac i'w hysbysu am ein prosiectau diweddaraf."
Mae aelodau eraill o'r Gymdeithas wedi bod yn siarad gyda Kirsty Williams AC, ac roedd Cliodhna wedi cyffroi wrth ddweud bod Ms. Williams wedi ymuno â Grŵp Facebook y Gymdeithas.
"Yn dilyn y sgwrs gyda Mark, rwyf wedi cysylltu drwy e-bost," meddai Cliodhna, "Rwyf wedi anfon mwy o wybodaeth ato am yr ymgyrch TYFU.  Hefyd rwy'n edrych ymlaen at sgwrsio gyda Kirsty ar Facebook."
Seminar Oxfam Cymru yn gweld drwy lygaid menywod sy'n ceisio lloches yng Nghymru
Oxfam Cymru yn uno pobl i drafod y camau nesaf ar gyfer menywod sy'n ceisio lloches yng Nghymru.
Heddiw, mae miliynau o fenywod ledled y byd wedi gorfod dianc o'u cartrefi. Mae cyfran fach iawn ohonynt yn dod i'r DU a nifer llai fyth yn cyrraedd i Gymru, gan adael gwledydd lle mae bygythiad i'w gallu i fyw mewn heddwch. Fel rhan o brosiect Menywod yn Ceisio Lloches yng Nghymru, mae Oxfam Cymru yn gweithio gyda mudiadau cymunedol a'r ceiswyr lloches eu hunain i ddarparu'r gefnogaeth sy'n eu galluogi i ailadeiladu eu bywydau, gan ddatblygu eu hyder a sgiliau.
Fel uchafbwynt i raglen tair blynedd Menywod yn Ceisio Lloches yng Nghymru, cynhaliodd Oxfam Cymru seminar i drafod ffyrdd o weithio'n effeithiol gyda menywod sy'n ceisio lloches, gan gyflwyno Canllaw Arfer Da i helpu mudiadau i ddarparu'r gefnogaeth orau bosib i fenywod.
Meddai Cydlynydd y Prosiect, Vicky Goodban, "Roedd y seminar yn ffordd ardderchog o uno pobl o Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, sy'n chwarae rhan bwysig wrth helpu menywod sy'n ceisio lloches i ailadeiladu eu bywydau. O fudiadau gwirfoddol i fenywod â phrofiad uniongyrchol o geisio lloches yng Nghymru, daeth y mynychwyr â brwdfrydedd a chynhesrwydd i'r digwyddiad, gan rannu eu profiadau a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
"Mae'n bwysig iawn agor trafodaeth greadigol am wirionedd lloches yng Nghymru a'r camau y gellid eu cymryd i wella bywydau menywod sy'n ceisio lloches."
Siaradodd Ayo Thompson, rheolwr Canolfan Gymunedol Affrica yn Abertawe am effaith gadarnhaol y grŵp menywod wythnosol i ffoaduriaid. Rhannodd Emily Robertson ei phrofiad o sefydlu a chynnal Abertawe fel Dinas Noddfa, a bu Selina Moyo o Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru yn codi brwdfrydedd ymysg y  gwesteion am y posibilrwydd o Gaerdydd fel Dinas Noddfa drwy alw ar fudiadau llawr gwlad ac aelodau o'r gymuned i wireddu'r syniad.
Cacennau bach, comedi a phebyll: bywyd fel gwirfoddolwr Oxfam
Dyma Vicky Leech, un o wirfoddolwyr rhaglen 'Newid' Oxfam, yn ysgrifennu am
ei hwythnos brysur o ymgyrchu yng Nghaerdydd mis diwethaf.
Wel am wythnos!  Ers dychwelyd i Gaerdydd ar ôl cael fy ysbrydoli ar raglen hyfforddi 'Newid' Oxfam,  rwyf wedi mynd ati o ddifrif i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch Tyfu. Gyda chymorth aelodau eraill grŵp Oxfam Caerydd, ynghyd a chacennau bach, comedi a phebyll 'pop-up', bum allan ar y strydoedd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o dir gipio.
Dechreuom drwy wisgo hetiau called gwyrdd a mentro allan ar ddydd Iau gwlyb i 'gipio'r' tir o amgylch y cerflun ar Stryd y Frenhines - fe lwyddom i wneud i rai siopwyr wenu ac i eraill syllu'n gegrwth! Yn nes ymlaen y noson honno, aethom draw i'r Boutique gyda llwyth o gacennau bach a phump digrifwr i ddiddannu'r dorf. Ar ôl y comedi, cawsom gyfle i sgwrsio am yr ymgyrch TYFU dros ambell i gacen.
Bore dydd Sadwrn, deffrais yn croesi fy mysedd y byddai'r tywydd sych yn dal gan ein bod am chwarae gem Tir Gipio yn y ddinas. Yn ffodus iawn, fe arhosodd hi'n sych tra bu pedwar tim yn rhedeg o gwmpas Caerdydd gyda pebyll a 'thap Tir Gipio'. Tasg y pedwar tim yn y gem oedd 'bachu' lleoliadau gwahanol o amgylch y ddinas. Ar ol cyrraedd bob lleoliad, roedd rhaid i'r timau aros yn eu hunfan am bum munud, gan obeithio na fyddai 'bos y cwmni' (un o'n gwirfoddolwyr) yn eu taflu oddi ar y tir. Llwyddodd y gem i dynnu sylw'r cyhoedd a rhoddodd hyn gyfle i mi siarad gyda nifer o bobl wahanol ynghylch tir gipio a'r hyn sy'n digwydd yn Uganda ar hyn o bryd.
Cannes yn lwyfan lle all y freuddwyd droi'n realiti - Pobl Cymru yn galw am Dreth Robin Hood
Wrth i arweinyddion byd eistedd o gwmpas bwrdd yn Cannes heddiw ar gyfer cyfarfod yr G20, mae pobl ar draws Cymru wedi bod yn cefngoi Treth Robin Hood fel ateb ar gyfer economi fethedig y byd.
Mae'r G20 yn gyfarfod 48 awr rhwng arweinyddion byd ac un o brif themau y tro hwn yw argyfwng dyled yr eurozone lle fydd yr arweinyddion yn trafod sefyllfa y system economaidd. Ffurfiwyd yr G20 mewn ymateb i argyfwng economaidd byd-eang y 90au hwyr. Ond eto, dros ddegawd a dau argyfwng yn ddiweddarach, mae ein heconomi dal ar chwal.
Gyda miloedd o brotestwyr wedi ymgynnull y tu allan i Egwlys St Paul's yn Llundain a Wall Street dros fôr yr Iwerydd, mae'n glir fod anfodlonrwydd tuag at gyflwr economi'r byd yn tyfu.
Un ateb sy'n cael ei gynnig gerbron y G20 yw Treth Robin Hood. Mae'r dreth trafodion ariannol hwn yn dreth bitw ar fanciau all gael effaith enfawr ar y byd: yn codi biliynau o bunnoedd tuag at daclo tlodi a newid hinsawdd yn y DU ac yn fyd-eang.
Mae'r dreth eisoes wedi tynnu sylw gyda phobl fel Bill Gates, Bill Nighy ac yn fwy diweddar, Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn lleisio eu cefnogaeth.
Ar ben hyn, mae dros mil o economyddion mwyaf blaenllaw y byd eisoes wedi cefnogi Treth Robin Hood ac mae cefnogaeth y cyhoedd wedi chwyddo'n sylweddol a chyflym dros y misoedd diwethaf.   Mae'r gefnogaeth gynyddol hwn yn brawf fod awch mawr am newid ac mae llygaid pawb ar arweinyddion yr G20 i wireddu'r alwad.
Mae pobl ar draws Cymru hefyd wedi bod yn uchel eu cloch fel bod pawb yn clywed am Dreth Robin Hood. Cafodd Grŵp Oxfam Caerdydd gyfarfod i drafod Treth Robin Hood a'i fuddiannau tra i Grŵp Oxfam Aberystwyth gael stondin yng nghanol y dre er mwyn siarad a phobl Aberystwyth am Dreth Robin Hood.
Dyw hi ddim yn rhy hwyr i chi ddangos eich cefnogaeth!
Dysgwch mwy fan hyn robinhoodtax.org.
Ac yna ymunwch â mwy na 20,000 o bobl drwy ebsotio David Cameron a gofyn iddo weithredu.
Gemau a chomedi rhad ac am ddim yng Nghaerdydd yr wythnos hon
Cyfle i chwerthin mewn dau ddigwyddiad cyffrous wedi'u trefnu gan Grŵp Oxfam Caerdydd.
Digwyddiad cyntaf y grŵp yr wythnos hon yw noson gomedi rhad ac am ddim nos Iau, yn Oxfam Boutique ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd.  Bydd y sioe, gyda'r comediwyr Stephen O'Neill, Geraint Dafydd Evans, Charlie Webster a Ted Shiress, yn dechrau am 6:45pm, ond beth am ddod draw yn gynt am sgwrs o flaen llaw?  Bydd cacennau bach a llawer o hwyl i'w gael!  Ar ddiwedd y noson cewch ddysgu sut i gyfranogi yn ymgyrch TYFU Caerdydd.
Dydd Sadwrn bydd gwirfoddolwyr Oxfam ar strydoedd Caerdydd yn gwneud hwyl am ben y cwmnïau sy'n tir gipio, sy'n gorfodi ffermwyr tlawd i adael eu cartrefi a'u teuluoedd heb ddigon o fwyd.  Maent yn chwilio am dimau o rhwng 2 a 4 o bobl i chwarae Gêm Adfeddiannu Tir Oxfam Caerdydd!  Bydd y gêm o amgylch ardal y Castell/Heol Eglwys Fair/Stryd y Frenhines rhwng 11am a 1pm.  Byddwch yn helpu i godi ymwybyddiaeth am dirgipio, fel rhan o ymgyrch TYFU Oxfam, gan sicrhau bod pawb yn y ddinas wedi clywed am sgandal tir gipio.
Dywedodd Swyddog Ymgyrchoedd Grŵp Oxfam Caerdydd, Steve Smith, 'Mae tir gipio yn Uganda a mannau eraill yn andwyol, yn gadael ffermwyr tlawd a'u teuluoedd heb ddigon o fwyd.  Mae'r Gêm Adfeddiannu Tir yn helpu i dynnu sylw at y mater mewn ffordd sy'n llawn hwyl i siopwyr Caerdydd.'
Cefnogi Treth Robin Hood trwy wneud llai o syrffio
Yn ddiweddar, bu Louise Weinzweig o Oxfam Cymru yn cwrdd a'i AS lleol i ofyn iddo  gefnogi Treth Robin Hood. Yma mae'n sôn am ei phrofiad ac yn gobeithio eich ysbrydoli chi i wneud yr un peth.
Dywedodd rhywun wrtha i fod 'Tri rheol ar gyfer cyfarfod gyda'ch AS - byddwch yn glir am yr hyn rydych yn gofyn amdano, mynd mewn grŵp a gwneud yn siwr eich bod wedi paratoi.'
Gan fy mod mor awyddus i drafod yr angen ar gyfer Treth Robin Hood (treth ar drafodion ariannol) gyda'm AS, anwybyddais yr ail reol yn gyfan gwbl - doedd gen i ddim amser i drefnu grŵp! Hefyd, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi treulio mwy o amser yn syrffio nac yn paratoi ar gyfer y cyfarfod gyda Jonathan Evans, AS Gogledd Caerdydd. Er hynny, rwyf yn gobeithio y bydd rhannu fy mhrofiad yn ysbrydoli pobl eraill i gwrdd a'u AS hwythau cyn diwedd mis Hydref (yn enwedig os na Jonathan Evans yw eu cynrychiolydd -
mae o angen ei argyhoeddi!).
Yn ein cyfarfod, mynegodd Mr Evans bryder rhagweladwy am gynnig diweddar y Comisiwn Ewropeaidd gan fod y cynnig hwn yn ffafrio rhoi'r arian a godir drwy'r dreth i mewn i gyllideb yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw hyn yn rhywbeth mae'r ymgyrch dros Dreth Robin Hood yn ei gefnogi. Dwi'n meddwl ei fod wedi synnu pan yr eglurais y byddwn ond yn cefnogi cynnig y Comisiwn petai'r elfen hon yn cael ei diwygio. Un o bryderon eraill Jonathan Edwards oedd y byddai cost y dreth hon yn cael ei basio 'mlaen gan sefydliadau ariannol i bobl gyffredin - arbedwyr ar raddfa fach, buddsoddwyr a deiliaid pensiwn. I
ateb y pryder yma, mae ymchwil y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ar y pwnc yma wedi dod i'r casgliad y byddai'n bennaf yn dreth flaengar fyddai'n cael mwy o effaith ar y bobl fwyaf cefnog mewn cymdeithas.
Yn y cyfarfod, rhoddais ymateb cryno i rai o bryderon Mr Evans a dywedais y byddwn yn cysylltu ag ef drwy e-bost gydag ymateb mwy cyflawn. Er nad oedd Mr Evans wedi ei argyhoeddi erbyn diwedd ein cyfarfod, roeddwn yn falch fy mod wedi llwyddo i ddangos iddo fy mod yn awyddus iddo gefnogi'r Dreth Robin Hood. Fy ngham nesaf fydd dilyn i fyny ar ein cyfarfod gyda mwy o ddadleuon o blaid y dreth, ac rwyf hefyd yn barod i ddechrau cysylltu a'r drysorlys (ond wnai ddim mynd i syrffio yn lle paratoi tro nesaf...).
Pwysig: Rhoi terfyn ar fygwth a dychryn yn Uganda
Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae rhai o'r bobl sydd wedi colli eu tir wedi honi fod gweithwyr y New Forests Company (NFC) wedi bod yn eu holi mewn modd oedd yn eu dychryn. Rydym angen eich cefnogaeth ar frys i sicrhau cyfiawnder ar gyfer y cymunedau sydd o dan fygythiad yn Uganda.
Mae datblygiadau difrifol wedi bod ers i ni lansio ein adroddiad ar dir-gipio oedd yn honi fod o leiaf 22,500 o bobl yn Uganda wedi cael eu taflu oddi ar eu tir (weithiau mewn modd treisgar) gyda nifer yn cael eu gadael heb ddim.
Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae rhai o'r bobl sydd wedi colli eu tir wedi honi fod gweithwyr y New Forests Company (NFC) wedi bod yn eu holi mewn modd oedd yn eu dychryn.
Rydym angen eich cefnogaeth ar frys i sicrhau cyfiawnder ar gyfer y cymunedau sydd o dan fygythiad yn Uganda. Anfonwch e-bost at Gadeirydd yr NFC, Robert Devereux, i alw arno i weithredu ar unwaith.
Dyma beth yr ydym yn galw amdano:
- Rydym yn galw ar NFC i stopio'r cwestiynu ad hoc honedig ar unwaith.
- Rydym am i'r NFC gytuno i gynnal archwiliad gwirioneddol annibynnol i'r honiadau a gynhwyswyd yn ein adroddiad, er mwyn sicrhau cyfiawnder ar gyfer y cymunedau o bobl sydd wedi cael eu troi oddi ar eu tir.