transferring Cool Planet for Teachers has moved

Our apologies

The page you are looking for has moved to the new Oxfam Education website.

You are now being redirected to the homepage, where you can find a huge range of resources to help you take a global approach in the classroom.

If you are not redirected automatically, please click here.



blank
Oxfam.org.uk Cool Planet for teachers home
Search
homeabout usglobal citizenshipCPDresourceslinkscontact ustext onlySite a-z
Oxfam resources for schools

 

Llinell Hanes

From Iraq: war and peace online resource

Bu cysylltiadau rhwng Irac a’r DG ers cyfnod y Croesgadau. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gafodd olew ei ganfod, yr oedd Prydain yn rheoli 65 y cant o fasnach Irac. Mae pobl yn Irac yn ymwybodol iawn o’u cysylltiadau â’r DG, ac o’r rôl yr ydym wedi ei chwarae yn y gorffennol; mae pobl yn y DG efallai’n llai ymwybodol o’n perthynas hir ag Irac.

4000–2000 CC Mesopotamia: tarddle gwareiddiad Ysgrifennu, yr olwyn a’r aradr yn cael eu dyfeisio.

700–1200 OC Diwylliant Arabaidd yn ffynnu Y brifysgol gyntaf yn cael ei sefydlu; algebra’n cael ei ddyfeisio.

1095–1291 Y CroesgadwyrMae’r Prydeinwyr yn dod gyda’r Croesgadwyr i ymladd arweinydd y Moslemiaid, Saladin.

1200 Y Mongoliaid Ym 1258 mae Genghis Khan yn troi Baghdad yn rwbel, ac mae 80,000 o bobl yn cael eu lladd.

1500–1917 Y Twrciaid Otomanaidd Mae’r Twrciaid Otomanaidd yn gyrru’r Mongoliaid allan ac yn llywodraethu Irac am dair canrif.

1917 Prydain yn cipio Baghdad Mae Prydain yn hawlio Baghdad a Basra ac yn coroni Faisal y Cyntaf fel brenin pyped ym 1921.

1920 Gwastrodi annibyniaeth Mae Churchill yn dadlau dros ddefnyddio ‘nwy gwenwynig’ yn erbyn ‘llwythau anwaraidd’.

1932 Ennill annibyniaeth Mae Irac yn cael ei chyhoeddi’n wlad annibynnol, gan ddod â’r mandad Prydeinig i ben.

1937 Geni Saddam Hussein

1943 Mae’r blaid Ba’ath yn cael ei ffurfio yn Namascus, Syria Mae ei gwleidyddiaeth yn seiliedig ar y syniad bod gwladwriaethau unigol yn ‘rhanbarthau’ sy’n rhan o ‘genedl’ Arabaidd fwy.

1956 Argyfwng Suez Mae Iraq yn ochri gyda’r Aifft, ac yn torri cysylltiadau diplomataidd gyda Phrydain ac UDA.

1979 Saddam Hussein yn dod i rym Rhyfel yn erbyn Iran, pryd mae dros filiwn o bobl yn marw. Mae Irac yn cael ei harfogi gan wledydd y gorllewin, sy’n ofni Iran.

1988 Irac yn ymosod ar y Cwrdiaid Mae Iraq yn cychwyn ymosodiadau gyda nwy gwenwynig ar y Cwrdiaid. Nid yw cynghreiriaid Irac yn dweud dim.

1990 Rhyfel y GwlffMae Iraq yn ymosod ar Coweit, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn ymosod ar Irac. Mae gwrthryfeloedd yn cael eu trechu. Mae’r Cwrdiaid yn cael ‘hafan ddiogel’ gan y Cenhedloedd Unedig. Ym 1992 mae Arabiaid y Corsydd yn cael eu gyrru allan o’r wlad.

Adladd y 1990au — sancsiynau Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gorfodi sancsiynau ar Irac, ynghyd â chyfundrefn archwiliadau arfau, sydd yn cael ei hatal ym 1998. Ym 1995, mae’r Cenhedloedd Unedig yn gorfodi rhaglen ‘Olew am fwyd’.

Rhyfel 2003 Yn Ionawr 2003, mae’r archwilwyr arfau’n mynd yn ôl, ond yn aros am ddim ond tri mis. Ar ôl methu â sicrhau penderfyniad gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i fynd i ryfel, mae UDA a Phrydain yn cychwyn ymosodiad ar Irac ym Mawrth 2003.

From Iraq: war and peace online resource

  Cool Planet for children this way >

Oxfam's Catalogue
Oxfam's Catalogue for SchoolsOxfam's catalogue contains a wide range of materials published by Oxfam and others.
Online Resources
Milking It!Milking it!
An innovative online learning resource for 13-16 year olds.
get globalGet Global!
A guide for teachers of 11 - 16 year olds on how to facilitate and assess active global citizenship

Control ArmsControl Arms Oxfam's campaign to demand tougher controls on the arms trade


Oxfam GB is a ltd company, reg in London No 612172,
Oxfam House, John Smith Drive, Cowley, Oxford, OX4 2JY
Reg. charity No 202918. Oxfam GB is a member of Oxfam International
Oxfam GB Privacy Policy   |    Website Terms and Conditions   |   Text Only