Mae’r rhai sy’n bleidiol i’r naill ochr neu’r
llall o’r ddadl yn teimlo’r un mor gryf â’i
gilydd eu bod yn iawn ynglŷn â’r rhesymau dros ac yn
erbyn y rhyfel yn erbyn Irac; dyma’r prif ddadleuon y mae’r
ddwy ochr wedi eu cyflwyno. Efallai y byddwch yn cael yr wybodaeth
hon yn ddefnyddiol i gyfeirio ati cyn cynnal dadl yn y dosbarth
(gweler gweithgarwch 5)
| O blaid y rhyfel |
|
Yn erbyn y rhyfel |
| Roedd yn rhaid i UDA a’r DG fynd i ryfel er mwyn
cael gwared â Saddam Hussein, sydd yn ‘unben drwg’. |
|
Pam yn awr? Buom yn cefnogi’r ‘unben drwg’
hwn gydag arfau yn ystod y rhyfel rhwng Iran ac Irac o 1980
tan 1988, a phan ddefnyddiodd Irac arfau cemegol (Americanaidd)
yn erbyn y Cwrdiaid ym 1988, fe gaeodd y byd ei lygaid ar
y peth. |
|
| Yr oedd yn arteithio ac yn dienyddio unrhyw un a fyddai’n
ei wrthwynebu, ac roedd yn gweithredu cyfundrefn a oedd yn
seiliedig ar ofn. |
|
Oedd, ond nid ei lywodraeth ef oedd yr unig un yn y byd
a oedd yn gwneud hyn — felly a yw UDA yn awr am ymosod
ar unrhyw wlad y mae’n ei chyhuddo? |
|
| Ar y llywodraeth yn llwyr y mae’r bai am ddioddefaint
pobl Irac — pe bai’r llywodraeth wedi cydymffurfio
â phenderfyniadau’r Cenhedloedd Unedig, buasai’r
sancsiynau wedi cael eu dileu. |
|
Cafodd y sancsiynau eu gorfodi gan y Cenhedloedd Unedig.
Mae UDA wedi dweud o’r dechrau — er nad bob amser
yn gyhoeddus — y byddai sancsiynau’n aros mewn
grym nes i Saddam ymadael. |
|
| Yr oedd angen sancsiynau er mwyn rhwystro’r llywodraeth
rhag dod yn fwy grymus. |
|
Mewn gwirionedd, cynnal y llywodraeth wnaeth y sancsiynau,
gan nad oedd gan bobl newynog unrhyw ddewis ond cefnogi’r
rhai a oedd yn eu bwydo. |
|
| Mae gan Irac arfau dinistr torfol — rhai cemegol,
biolegol a niwclear. |
|
Ni chafodd unrhyw arfau o’r fath eu defnyddio yn
y rhyfel, ac ni ddaethpwyd o hyd i rai. Mae gan naw o wledydd
eraill arfau niwclear. |
|
| Mae Saddam Hussein wedi rhoi nawdd i derfysgwyr, ac mae
ganddo gysylltiadau ag al-Qaida. Gallai werthu neu roi arfau
iddynt i’w defnyddio yn ein herbyn ni. |
|
Nid oes unrhyw gysylltiadau gydag al-Qaida wedi eu profi.
Mae Osama bin Laden wedi galw, hyd yn oed, am jihad yn erbyn
Saddam oherwydd ei fod yn ‘anffyddiwr’. |
|
| Yr oedd pobl Irac eisiau cael gwared â Saddam Hussein
a’i lywodraeth. |
|
Mae hyn yn wir — ond nid waeth beth oedd y gost.
Efallai nad yw’r Iraciaid eisiau Saddam, ond nid ydynt
yn dymuno cael eu llywodraethu gan America ychwaith. |
|
| Y mae Irac wedi torri saith o benderfyniadau’r Cenhedloedd
Unedig. |
|
Ond mae gwledydd eraill wedi gwneud hynny hefyd, megis
Israel, sydd wedi wfftio llawer mwy o benderfyniadau heb i
neb wneud dim ynghylch y peth. |
|
| Ni ellir caniatáu i Irac anwybyddu’r Cenhedloedd
Unedig. |
|
Onid dyna’n union y mae UDA a’r DG yn ei wneud
yn awr trwy fynd i ryfel heb gefnogaeth y Cenhedloedd Unedig? |
|