Llinell gymorth i ffoaduriaid yn adrodd am gynnydd mewn ymosodiadau
Ddydd Sadwrn diwethaf, sylweddolodd tri cheisiwr lloches Iracaidd
nad oeddynt yn ddiogel hyn yn oed yng ngolau dydd yng nghanol tref
Plymouth. Rhedodd gang o 12 o ddynion gwynion ar eu holau, gan weiddi
bygythiadau o farwolaeth fel rhan o ymosodiad a adawodd dau o’r
ffoaduriaid gydag anafiadau i’w pennau.
Mae’r heddlu’n dweud bod yr ymosodiad yn un direswm,
ac maent yn ei drin fel un gyda chymhellion hiliol. Dywedodd un
o’r ceiswyr lloches fod y digwyddiad wedi atgyfodi ‘atgofion
poenus’ am y trawma yr oedd wedi ei ddioddef yn Irac. Meddai
Darius Bahiraey, o’r grŵp Refugee First sydd â’i
bencadlys yn Plymouth: ‘Fe welais ei wyneb. Yr oedd yn ddu
ac wedi chwyddo i gyd. Mae’r tri wedi eu brawychu gan yr ymosodiad.’
Mae’r ymosodiad hwn dros y penwythnos ymhell o fod yn helynt
ar wahân, yn ôl llinell gymorth annibynnol ynglŷn ag
aflonyddu hiliol. Mae’r Grŵp Monitro yn adrodd bod mwy
na 1,700 o gŵynion wedi eu gwneud y llynedd. Rhwng Ionawr a
Rhagfyr, derbyniodd y Grŵp Monitro mwy na 130 o alwadau y mis
gan geiswyr lloches a oedd yn cwyno am gamdriniaeth, aflonyddu neu
drais, yn ôl ffigyrau y mae’r Guardian wedi eu gweld...
Vikram Dodd, The Guardian, 24 Ionawr 2003
Classroom activity: News Board
From Iraq: war and peace online
resource
|