|
Statements on the war
‘Dw i’n meddwl ei bod hi’n hollol ddibwynt
mynd i ryfel. Ond gan ein bod ni yng nghanol rhyfel, mae angen i
ni gefnogi’r bobl sy’n ymladd drosom ni. Mae’n
drueni gen i dros yr holl bobl sydd â theulu a ffrindiau yn
Irac a’r lluoedd arfog. Alla’ i ddim gweld pam na ellid
datrys y mater yma’n heddychlon.’
Rachel, 14, Burnham, y DG
‘Mae gwladwriaethau fel y rhain, a’u cynghreiriaid
terfysgol, yn echel drygioni, sy’n ymarfogi er mwyn bygwth
heddwch ein byd... Mae hanes wedi galw America a’n cynghreiriaid
i weithredu, a’n cyfrifoldeb a’n braint yw ymladd brwydr
heddwch.’
Arlywydd UDA, George Bush, yn ei Anerchiad blynyddol ar Gyflwr
yr Unol Daleithiau, 29 Ionawr 2002
‘Fel llawer iawn, iawn o bobl Iracaidd, rwyf yn erbyn Saddam
Hussein ac ar yr un pryd yn erbyn ymyriad America yn Irac. Daeth
Saddam Hussein i rym gyda chefnogaeth America, ac rŵan maent
eisiau cael gwared ag ef a gorfodi arweinyddiaeth arall arnom ni.
Does gan hyn ddim byd i’w wneud â democratiaeth, nac
â lles pobl Irac — mae a wnelo â goruchafiaeth
yr Unol Daleithiau dros y byd.’
Nadia Mahmoud, gwrthwynebwraig Iracaidd ac ymgyrchydd dros hawliau
merched, sy’n byw yn Llundain
‘Felly, mae ein dewis yn glir: tynnu’n ôl, a
gadael Saddam wedi ei gryfhau’n aruthrol; neu fwrw ymlaen
i’w ddiarfogi trwy rym. Efallai y byddai encilio’n rhoi
ennyd o seibiant i ni, ond rwy’n credu y byddai blynyddoedd
o edifeirwch am ein gwendid yn dilyn.’
Prif Weinidog y DG, Tony Blair, mewn anerchiad i’r genedl,
20 Mawrth 2003
‘Yn y byd modern, ni ddylid ond defnyddio grym dan amgylchiadau
eithriadol, ac yn niffyg dim arall. Ni ddylid ond ei ganiatáu
mewn achosion lle mae’r grym yn gyfreithlon, neu trwy benderfyniad
yr awdurdodau rhyngwladol cymwys.... Dim ond hyn sy’n ein
gwarchod yn gadarn rhag temtasiynau anturio.’
Arlywydd Ffrainc, Jacques Chirac, mewn araith ynBeirut, Libanus
‘Mae fy nau frawd — un ohonynt yn ieuangach na fi,
dim ond yn 16 oed — wedi cael eu drafftio i’r fyddin,
ac maent yn Baghdad erbyn hyn. Rwy’n pryderu’n fawr
yn eu cylch, ac ynghylch fy nheulu. Dydw i ddim yn hoffi Saddam
Hussein, ond rwyf yn erbyn y rhyfel hwn.’
Ahmed, ceisiwr lloches Iracaidd 17 oed ym Mhrydain
Classroom activity: Interpreting different
viewpoints
From Iraq: war and peace online
resource
|