|
Cynllun gwers: Canlyniadau dwr budr
Allan o adnoddau arlein Tsunami yn Asia
Amcanion dysgu
Mae mynd yn brin o ddwr glan yn effeithio ar fywydau pobl mewn sawl ffordd. Byddai’r canlyniadau hyn yn berthnasol i unrhyw un, ble bynnag maent yn byw.
Byddwch angen
Copïau neu lun taflunydd o’r fframwaith a ddefnyddir ar gyfer dilyn cyfres o effeithiau; start-fflip; darnau mawr o bapur ar gyfer deiagramau grwp.
Beth i’w wneud:
- Gofynnwch i’r plant i ddychmygu pan fyddant yn mynd adref heno fod y cyflenwad dwr wedi cael ei lygru. Gofynnwch: Sut fyddai mynd heb ddwr yn effeithio arnoch chi a phawb o’ch cwmpas?
- ‘Sgrifennwch rai o’u hawgrymiadau i lawr. Oes cysylltiad rhwng rhai o’u hawgrymiadau? A yw un peth yn arwain at y llall?
- Dangoswch y deiagram fel enghraifft o ddilyn cyfres o effeithiau. Eglurwch sut mae’n dangos fod un peth yn arwain at y llall, sy’n arwain at fwy o broblemau fyth.
- Fel dosbarth, gweithiwch trwy un set o ganlyniadau tebygol ar siart-fflip (cadwch hwn fel y gallwch gyfeirio’n ôl ato yn y dyfodol).
- Mewn grwpiau, gofynnwch i’r plant roi cynnig ar ddilyn effeithiau mewn ffordd debyg i’r enghraifft yn y deiagram. Os yw amser yn brin, gallwch eu cynghori ei bod efallai’n syniad da i ddilyn un effaith mor bell ag y gallant.
- Mynnwch adborth gan y grwpiau ar yr enghreifftiau maent wedi eu dilyn. Oes yno bartymau cyffelyb yn dod i’r amlwg? A yw rhai grwpiau yn dod ar draws syniadau newydd ar gyfer effeithiau?
- All y plant ddechrau deall beth yw maint y broblem pan nad oes yno ddigon o ddwr glân yn y cartref neu o fewn cyrraedd iddo?
A allant hefyd weld y byddai’r effeithiau hynny yn berthnasol i unrhyw un yn y sefyllfa honno, ble bynnag y byddant yn byw yn y byd?
>cliciwch fan yma am yr enghraifft o fframwaith ar gyfer dilyn cyfres o effeithiau
|