|
Cynllun gwers: Diffinio Trychinebau
Addaswyd allan o Ymdrin â Thrychinebau ar gyfer adnoddau arlein Tsunami yn Asia
Amcanion
Edrych i mewn i lefel bresennol dealltwriaeth y disgyblion ynglyn â thrychinebau
Datblygu sgiliau rhesymu a gosod mewn categorïau
Dangos nad yw ‘trychineb’ bob amser yn hawdd i’w ddiffinio, a gall olygu gwahanol bethau mewn gwahanol gyd-destunau
Beth i’w wneud - rhan un
Arwain sesiwn syniadau ynglyn â’r trychineb. Cofiwch nad oes yno unrhyw atebion cywir nac anghywir. Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i drafodaeth, ond dylech gofnodi pob awgrym a gaiff ei wneud.
‘Sgrifennwch y gair ‘Trychineb’ ar ddarn mawr o bapur. Gofynnwch i’r disgyblion ‘sgrifennu i lawr unrhyw eiriau neu ymadroddion mae’r gair yn ei gyfleu iddynt. Ar ôl ychydig funudau, rhannwch y dosbarth yn barau, a gofynnwch i’r disgyblion drafod eu syniadau. Dylai pob pâr ‘sgrifennu rhai o’u syniadau ar ddarn o gerdyn neu labelau.
Yn eu tro, dylai pob pâr osod eu cardiau (gan ddefnyddio Blu-Tack) o amgylch y teitl canolog ‘Trychineb’. Gofynnwch i’r disgyblion grwpio geiriau neu ymadroddion sy’n golygu’r un peth, neu sy’n perthyn, gyda’i gilydd. Er enghraifft, gallai ‘ofnus’ fynd gyda ‘newynog’ oherywdd fod y ddau air yn mynegi sut mae pobl yn teimlo mewn sefyllfa o’r fath. Gallai eraill osod ‘dim bwyd’ gyda ‘damwain car’ gan fod y naill a’r llall yn enghreifftiau o drychineb.
Gweithiwch gyda’r disgyblion i ddatblygu categorïau mwy cadarn, a ‘sgrifennwch y categorïau ar y darn mawr o bapur, fel is-deitlau. Gallai’r rhain gynnwys ‘mathau o drychineb’; ‘achosion trychinebau’; ‘teimladau’; canlyniadau’ a.y.b……. Mae’n bosibl y bydd disgyblion eisiau cynnwys rhai geiriau neu ymadroddion mewn mwy nag un adran. Trefnwch hynny fel bo’r angen.
Mae’r gweithgaredd yma yn gyfle defnyddiol ar gyfer asesu.
Byddwch nawr wedi creu arddangosfa y gall y disgyblion ei newid neu ychwanegu ato wrth i’w dealltwriaeth o’r pwnc gynyddu. Gallai disgyblion gasglu penawdau, lluniau a dyfyniadau o bapurau newydd i fynd gyda phob categori.
Beth i’w wneud - rhan dau
Lawrlwythwch a llun-gopïwch taflen ddatganiadau: Beth yw trychineb ? Rhannwch y dosbarth fesul parau neu grwpiau bach a rhowch set o ddatganiadau i bob grwp. Gofynnwch i’r disgyblion osod eu syniadau ar ffurf deimwnt fel yr un isod:

Dylai’r disgrifiad sydd debycaf i’w syniad hwy o ‘drychineb’ fynd ar ben y deimwnt a’r un sydd leiaf fel eu syniad o ‘drychineb’ fynd ar y gwaelod.
Pwyntiau trafod:
-
Oedd y disgyblion yn cytuno ar ba ddatganiad oedd agosaf at eu syniadau hwy o drychineb?
-
Sut aethant ati i wneud eu penderfyniadau? Fel dosbarth, neu mewn grwpiau llai, gofynnwch i’r disgyblion ‘sgrifennu rhai o’r pethau sydd yn eu barn hwy yn ‘drychineb’ Efallai yr hoffech gynnig y cwestiynau canlynol fel arweiniad:
-
A yw trychineb bob amser yn digwydd yn sydyn?
-
A yw yn bwysig faint o bobl sy’n cael eu heffeithio?
-
A yw trychineb wastad yn golygu marwolaethau?
-
A yw yn bwysig pa mor aml mae’n digwydd?
-
A yw yn bwysig i bwy mae’n digwydd?
-
A yw yn bwysig pwy sy’n gwybod amdano?
-
A yw yn bywsig beth sy’n ei achosi?
-
A yw yn bywsig pwy sy’n siarad amdano?
Beth i’w wneud - rhan tri
Ewch yn ôl i’r sesiwn syniadau. A yw’r dysgyblion eisiau ychwanegu unrhyw beth newydd i’w syniadau gwreiddiol? A ydynt eisiau dileu neu newid unrhyw beth? Cadwch y darn papur ‘rydych wedi ei ddefnyddio ar gyfer y sesiwn syniadau. Gallwch gyfeirio'n ôl at y syniadau hyn os ydych yn mynd ati i wneud y gweithgaredd ar achosion o Ymdrin â Thrychinebau.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
| Lloegr |
Yr Alban |
Cymru |
| Dinasyddiaeth / Addysg Bersonol, Cymdeithasol ac Iechyd:
-
Effeithiau stereoteipio; cydymdeimlad; ystyriaethau cymdeithasol a moesol.
Daearyddiaeth:
-
Sylweddoli sut mae gwerthoedd ac agweddau pobl yn effiethio ar faterion…, a datblygu ac eglurhau eu gwerthoedd a’u hagweddau hwy tuag at wahanol faterion.
Iaith:
-
Trafodaeth ac ymateb o fewn i grwpiau - cyfrannu i grwpiau; ystyried gwahanol farn; dethol, crynhoi a defnyddio’r pwyntiau pwysicaf. |
Astudiaethau Amgylcheddol; Cymdeithas;
-
Ymadwaith rhwng pobl.
-
Datblygu agweddau hysbys - ymadwaith pobl â’u hamgylchedd.
Iaith:
-
Gwrando mewn grwpiau; siarad mewn grwpiau; siarad ynglyn â phrofiadau, teimladau a barn; darllen er mwyn canfod gwybodaeth.
Datblygiad Personol a Chymdeithasol:
-
Datblygiad cymdeithasol. |
Daearyddiaeth:
-
Dod i ddeall sut mae gwerthoedd a barn pobl, yn effiethio ar faterion…, a datblygu ac eglurhau eu gwerthoedd a’u hagweddau eu hunain tuag at wahanol faterion.
Iaith:
-
Trafodaethau grwp ac ymadwaith - cyfraniadau i grwpiau; ystyried gwahanol farn, dethol, crynhoi a defnyddio’r pwyntiau pwysicaf
Addysg Bersonol a Chymdeithasol:
-
Gwerthuso safbywnt pobl eraill; cydymdeimlo â phrofiadau a theimladau pobl eraill; mynegi barn foesol a datrys materion moesol. |
Addaswyd allan o Ymdrin â Thrychinebau ar gyfer adnoddau arlein Tsunami yn Asia
|