|
Cynllun gwers: Trychineb yn eich bwrw
Addaswyd allan o Ymdrin â Thrychinebau ar gyfer adnoddau arlein Tsunami yn Asia
Amcanion
Helpu disgyblion i ganfod gwybodaeth ynglyn ag ymatebion priodol i drychinebau.
Herio syniadau sydd gan ddisgyblion ar hyn o bryd ynglyn ag ymateb i drychinebau.
Byddwch angen
Llun-gopi o’r taflenni-gwaith ‘ Trychineb yn eich bwrw’ a ‘Trychineb yn eich bwrw: Atebion’ ar gyfer pob pâr o ddisgyblion.
Beth i’w wneud
Mewn parau, gofynnwch i’r dysgyblion ddychmygu eu bod yn rhan o dîm ymateb i drychineb sy’n gorfod gwneud penderfyniadau cyflym ynglyn â materion sy’n effiethio ar y rheiny sydd wedi goroesi. Dylai disgyblion gwblhau’r daflen-waith ‘ Trychineb yn eich bwrw’.
Dewch at eich gilydd fel dosbarth a thrafodwch atebion y disgyblion. Oedd hi’n hawdd cytuno ar y camau cywir? Pa faterion eraill ddylid hefyd eu hystyried o bosibl?
Nawr dosbarthwch y taflenni atebion a rhowch amser iddynt i gymharu ymatebion. A synnwyd y disgyblion han rai o’r atebion? Pa faterion eraill ydych chi’n gredu y byddai rhaid i dimau argyfwng eu hystyried? Gallech efallai gyflwyno ffactorau megis pwysigrwydd bod yn gyfarwydd ag ieithoedd, diwylliant, adnoddau, mudiadau, systemau iechyd, a.y.b. y brodorion. Mae hefyd yn ddefnyddiol trafod y cysylltiad rhwng cymorth mewn argyfwng a datblygiad. Mae rhaglenni hir-dymor sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd, ac yn ymladd elfennau sylfaenol megis tlodi, yn gallu cael effaith sylweddol ar leihau effeithiau trychinebau ar gymunedau tlawd.
Nodiadau ar gyfer athrawon
Efallai y caiff disgyblion anawsterau o ran meddwl mewn termau cyffredinol, yn hytrach na chanolbwyntio ar drychineb penodol. Yn yr achos hwn, efallai y gallech awgrymu eu bod yn seilio eu hatebion ar drychineb maent yn fwy cyafrwydd ag ef. Serch hynny, byddai’r gweithgaredd yn fan cychwyn da ar gyfer trafodaeth ynglyn â’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud yn dilyn trychineb sylweddol; bydd hefyd yn herio syniadau sydd eisoes ganddynt. Mae’n bwysig cydnabod, er fod sefyllfaoedd unigol yn wahanol iawn, fod yno’n dal i fod egwyddorion cyffredinol sy’n perthyn iddynt i gyd.
Addaswyd allan o Ymdrin â Thrychinebau ar gyfer adnoddau arlein Tsunami yn Asia
|