|
Tsunami yn Asia
Mae Tsunami yn Asia yn dod â
defnyddiau dysgu o Cool Planet at ei gilydd, ynghyd
â gwybodaeth o brif safwe Oxfam a safweodd allanol,
er mwyn galluogi dysgu o amgylch yr argyfwng dynol sy’n
digwydd yn Asia ar hyn o bryd. Byddwn yn ychwanegu adnoddau
newydd i’r adran hon trwy gydol Ionawr, felly cofiwch
ddod yn ôl at y safwe hon! |
>gwybodaeth gefndir
>defnyddiau a gweithgareddau ar gyfer y ‘stafell-ddosbarth
>defnyddiau fel ffynhonnell wybodaeth
>gwybodaeth ar gyfer ysgolion: cwestiynau
a ofynir yn aml
Gwybodaeth gefndir
Ar 26 ain Rhagfyr 2004, digwyddodd deargryn yn mesur
9 ar raddfa Richter yn nyfnderoedd Cefnfor India. Creodd y daeargryn
donnau enfawr a chwalodd gymunedau arfordirol yn India, Indonesia,
y Maldives, Somalia, Sri Lanka a Gwlad Thai.
Lladdwyd miloedd a difethwyd bywydau miliynau o bobl
gan y trychineb. Mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu wrth i glefydau
ledaenu. Mae Oxfam yn darparu cymorth brys i gannoed o filoedd o
bobl ledled Asia, a byddwn yn gweithio gydag eraill i ailadeiladu’r
ardaloedd a effeithiwyd yn ystod y misoedd sydd i ddod.
Map o’r rhanbarth ble mae Oxfam yn gweithio
Defnyddiau a gweithgareddau ar gyfer
y ‘stafell-ddosbarth
Mae’r gweithgareddau canlynol wedi cael eu
cynllunio i’ch cynorthwyo i ymchwilio gyda’ch disgyblion
i effeithiau’r tsunami yng Nghefnfor India ar gymunedau yn
y rhanbarthau hynny. Serch hynny, mae’n bwysig cofio effeithiau’r
trychineb, a’r sylw a roddwyd i’r digwyddiad yn y cyfryngau,
ar eich disgyblion, a buasem yn argymell eich bod yn rhoi cyfle
iddynt siarad yn agored ynglyn â’u teimladau. Mae’n
bwysig, wrth gwrs, bod yn ymwybodol y gall rhai disgyblion fod wedi
cael eu heffeithio’n uniongyrchol.
Mae’r gweithgareddau hyn i gyd wedi cael eu
cynllunio fel y gellir eu defnyddio, ar ôl eu haddasu, gyda
gwahanol oedrannau.
>diffinio
trychinebau
>tsunami yn y cyfryngau
>trychineb
yn eich bwrw
>ymchwilio
i anghenion
>canlyniadau
dwr budr
> ymateb Oxfam
i anghenion byr-dymor: darparu dwr glân
Cwestiwn allweddol i’w
ystyried :mae 98% o’r marwolaethau
sy’n digwydd oherwydd trychinebau naturiol yn digwydd
yng ngwledydd tlotaf y byd. Pam ydych chi’n meddwl
fod pobl dlawd mewn mwy o berygl o ran trychinebau naturiol?
|
Source materials
On the Oxfam GB website
> Latest
update, stories and reports
> 'The
first stepping stone...' - schools re-open in Indonesia
> How
we work in emergencies
> Emergency
fact file
Other NGO websites
> MAKEPOVERTYHISTORY
> ActionAid
> CAFOD
> Christian
Aid
> Red Cross
> Save
the Children
> UNICEF
On the BBC website
> Asia
Quake Disaster: In depth
> Animated
guide: The tsunami disaster
Other websites
> RaisingKids.co.uk:
Dealing with Disasters – support for parents
|