|
Cynllun gwers: Ymchwilio i anghenion
Allan o adnoddau arlein Tsunami yn Asia
Amcanion
Helpu plant i ddeall anghenion cymunedau a effeithiwyd gan y tsunami yng Nghefnfor India yn y tymor byr, canolig a hir.
Byddwch angen
Deunydd allan o’r cyfryngau yn ymwneud â’r tsunami yng Nghefnfor India (naill ai arlein neu wedi ei argraffu)
Beth i’w wneud
Gofynnwch i’r disgyblion dynnu llun mawr o’r deiagram Cylchoedd Effaith. Gofynnwch iddynt i ddefnyddio deunydd allan o’r cyfryngau yn ymwneud â’r tsunami yng Nghefnfor India i ymchwilio i anghenion cymunedau a effeithiwyd, ac yna eu cofnodi ar y deiagram yn ôl y categorïau canlynol: anghenion byr-dymor, tymor canolig neu hir-dymor. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i ddisgyblion ganolbwyntio ar y sylw a roddwyd i un rhanbarth penodol, er nad yw hyn yn hanfodol bwysig, gan y bydd yr effeithiau yn ddigon tebyg ym mhob un o’r ardaloedd a effeithiwyd.
Rhestr wirio o anghenion (nid yw yn gynhwysfawr)
Gallwch ddefnyddio’r rhestr wirio ganlynol i ychwanegu unrhyw anghenion i’r drafodaeth mae eich disgyblion wedi eu methu. Neu gallwch drafod eitemau ar y rhestr ac yna gofyn i’r disgyblion i’w dosbarthu i anghenion byr-dymor, tymor canolig a hir-dymor.
- Cael gwared o gyrff pobl ac anifeiliaid marw yn ddiogel
- Clirio a thrwsio llain-glanio meysydd awyr
- Cysgod dros-dro ar gyfer pobl sydd wedi colli eu cartrefi
- Cyflenwadau dwr glan, diogel
- Cyflenwadau bwyd ar frys
- Meddyginiaethau a chyfarpar meddygol
- Offer coginio a glanweithdra ar gyfer teuluoedd
- Dillad
- Blancedi
- Canfod pobl sydd ar goll
- Ysbytai dros-dro
- Cyfleusterau ymolchi a thoiledau
- Tannwydd
- Rhwydi moscîto
- Clirio rwbel
- Sicrhau fod cyflenwadau dwr yn rhydd o halen
- Clirio halen o diroedd ffermio
- Cynghori ar gyfer ymdrin â thrawma a gofid pobl
- Offer fferm newydd
- Offer coginio newydd
- Ail-stocio ffermydd gydag anifeiliaid
- Ail-adeiladu cartrefi
- Ail-adeiladu ysgolion a darparu offer newydd ar eu cyfer
- Ail-adeiladu ysbytai a darparu offer newydd ar eu cyfer
- Ail-adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd
- Gwella systemau rhybuddio ar gyfer tsunami
- Hyfforddi pobl leol ar gyfer gweithio mewn sefyllfa argyfwng
- Adfer bywoliaeth pobl (e.e. cychod pysgota newydd, datblgu twristiaeth)
- Offer tyrchu, megis caib, rhaw a phâl.
- Agor fyrdd trwy’r rwbel i fannau lle gall pobl fod yn gaeth dan adeiladau a ddinistriwyd
- Darparu hadau ar gyfer ffermwyr a thyddynwyr
Allan o adnoddau arlein Tsunami yn Asia
|