transferring Cool Planet for Teachers has moved

Our apologies

The page you are looking for has moved to the new Oxfam Education website.

You are now being redirected to the homepage, where you can find a huge range of resources to help you take a global approach in the classroom.

If you are not redirected automatically, please click here.



blank
Oxfam.org.uk Cool Planet for teachers home
Search
homeabout usglobal citizenshipCPDresourceslinkscontact ustext onlySite a-z
Oxfam resources for schools

 

Cynllun Gwers: Tsunami yn y cyfryngau

Allan o adnoddau arlein Tsunami yn Asia

Amcanion
Annog disgyblion i edrych yn feirniadol ar adroddiadau yn y cyfryngau

Caniatáu disgyblion i ymchwilio i’r effeithiau a gaiff y cyfryngau ar y ffordd maent yn meddwl

Datblygu sgiliau cydweithredu trwy gyrraedd consensws o fewn i’r grwp

Byddwch angen
Digon o gopïau o chwech erthygl, pennawd neu ddelwedd papur-newydd (un set ar gyfer pob grwp) ynglyn â’r tsunami yng Nghefnfor India. Gallwch ddefnyddio naill ai penawdau i gyd, delweddau i gyd, erthyglau i gyd neu gyfuniad ohonynt.

Darn o bapur ar ffurf ‘swigen syniadau’ (gall disgyblion baratoi’r rhain eu hunain)

Beth i’w wneud:
Rhannwch y dosbarth yn grwpiau o bedwar neu bump. Rhowch set o’r eitemau allan o bapurau-newydd ‘rydych wedi eu casglu i bob grwp.

Gofynnwch i’r disgyblion drafod yr eitemau papur-newydd a roddwyd iddynt. Ar gyfer pob eitem, dylent ystyried y brif neges mae’r eitem yn ei mynegi a beth yw eu hymateb iddi - sut mae’n gwneud iddynt deimlo?

Dylent restru’r eitemau, yn ôl pa un sy’n gwneud yr argraff fwyaf arnynt. I wneud hyn gallent drefnu’r eitemau yn y siâp canlynol, gan osod yr un sydd yn eu barn hwy yn gwneud yr argraff fwyaf arnynt ar ben y siâp.

ranking

Dewch yn ôl at eich gilydd fel dosbarth a rhowch gyfle i’r grwpiau gyflwyno eu prif eitem, gan egluro sut y gwnaeth iddynt deimlo a’r rhesymau dros eu dewis.

Fel dosbarth edrychwch ar y tebygrwydd a’r gwahaniaeth rhwng y prif eitemau a ddewiswyd.

Ystyriwch beth oedd y ffactorau a wnaeth yr eitemau hyn mor bwerus a lluniwch grynodeb o’r pwyntiau.

Rhowch ddarn o bapur ar ffurf ‘swigen syniadau’ i bob disgybl a gofynnwch iddynt i ‘sgrifennu pa effaith a gafodd yr eitem arnynt. Defnyddiwch y ‘swigod syniadau’ a’r crynodeb o bwyntiau ynglyn â sut mae’r eitem yn gweithio i greu arddangosfa.

 

Allan o adnoddau arlein Tsunami yn Asia

  Cool Planet for children this way >

Oxfam's Catalogue
Oxfam's Catalogue for SchoolsOxfam's catalogue contains a wide range of materials published by Oxfam and others.
Online Resources
Milking It!Milking it!
An innovative online learning resource for 13-16 year olds.
get globalGet Global!
A guide for teachers of 11 - 16 year olds on how to facilitate and assess active global citizenship

Oxfam GB is a ltd company, reg in London No 612172,
Oxfam House, John Smith Drive, Cowley, Oxford, OX4 2JY
Reg. charity No 202918. Oxfam GB is a member of Oxfam International
Oxfam GB Privacy Policy   |    Website Terms and Conditions   |   Text Only