|
Ymateb Oxfam i anghenion byr-dymor: darparu dwr glân
Allan o adnoddau arlein Tsunami yn Asia
Y maes lle mae gan Oxfam y mwyaf o wybodaeth ac arbenigedd ynddo yw darparu dwr glan a chyfleusterau toiled sylfaenol ar gyfer y rheiny a effeithir gan drychinebau megis y tsunami.
Mae hyn yn bwysig iawn, oherwydd heb ddwr glân i’w yfed, sebon a thoiledau, mae yno berygl sylweddol y bydd pobl yn dal afiechydon (mae dros 80% o glefydau mewn gwledydd sy’n datblygu yn cael eu hachosi gan ddwr budr).
Mae Oxfam ar hyn o bryd yn gweithio ym mhob un o’r ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y tsunami er mwyn darparu’r hyn sydd ei angen i helpu atal hynny rhag digwydd.
Mewn un ardal o Sri Lanka yn unig, mae Oxfam eisoes wedi darparu 11 tunnell o gyfarpar arbennig ar gyfer dwr a glanweithdra, ynghyd â dechrau adeiladu toiledau a thanciau mawrion i dal dwr. Mae’r cyfarpar a gaiff ei ddefnyddio yn aml yn syml iawn, fel bwcedi gyda chaeadon a thapiau fel ei bod yn hawdd cadw dwr yn lân.
Tanciau dwr
Mae tanciau dwr yn hanfodol bywsig pan fo rhaid storio a phuro cyflenwad sylweddol o ddwr. Gall tanc 70,000 lîtr ddarparu 4,666 o bobl â digon o ddwr am un diwrnod.
Mae’r tanc dwr a gynlluniwyd gan Oxfam bellach yn cael ei dderbyn fel y safon ar gyfer ei ddefnyddio mewn argyfwng. Mae wedi ei wneud o haearn rhychog, gyda haen o rwber ar y tu mewn, a gall ddal hyd at 95,000 lîtr o ddwr.
Mae pob tanc hunan-gynhaliol, yn hawdd i’w gludo, ac yn ddigon cryf i ymdopi ag amgylcheddau anodd iawn. Mae’r tanciau wedi cael eu cynllunio fel y gellir eu gosod at ei gilydd mewn amser byr gan y gymuned leol, gydag arweiniad gan staff Oxfam.
|