|
Taflen ddatganiadau: Diffinio Trychinebau
Beth yw eich syniad chi o drychineb? Torrwch y datganiadau hyn allan a gosodwch hwy ar ffurf deimwnt, gyda’r un sydd debycaf i’ch syniad chi o drychineb ar ben y deimwnt, y lleiaf tebyg ar y gwaelod, a’r gweddill yn eu trefn yn y canol.
|
Mae gennych gyfweliad am swydd, ac ‘rydych wedi colli’r bws.
|
|
|
|
‘Rydych wedi anghofio cyflwyno sich gwaith cwrs, a byddwch yn methu’r arholiad.
|
|
|
Mae eich ty wedi cael ei ddinistrio gan dân, ond mae gennych yswiriant llawn.
|
|
|
‘Rydych wedi torri eich coes, ond mae’r ysbyty agosaf 200 milltir i fwrdd, ac nid oes gennych fodd o deithio yno.
|
|
|
‘Rydych yn byw gyda’ch cymar a thri o blant. Mae angen i chi dalu’r rhent yfory, ond ni fyddwch yn derbyn eich cyflog am dair wythnos arall
|
|
|
Nid ydych chi a’ch teulu wedi cael digon i fwyta ers tri mis. Mae yno ddigonedd o fwyd yn y siopau, ond ‘rydych yn methu fforddio ei brynu.
|
|
|
‘Rydych wedi colli popeth mewn llifogydd. Mae miloedd o bobl yn eich hardal wedi cael eu heffeithio, ac mae ffyrdd a phontydd lleol wedi cael eu ‘sgubo i ffwrdd
|
|
|
Nid ydych erioed wedi bod yn yr ysgol, oherwydd fod eich hangen adref i erdych ar ôl eich brawd iau tra bod eich rhieni yn gweithio.
|
|
|
‘Rydych yn sownd tu mewn i’r car yn dilyn damwain gas. ‘Rydych wedi cael eich hanafu’n ddifrifol. Mae’r ambiwlans ar ei ffordd.
|
|
Cynllun gwers: Diffinio Trychinebau
|