transferring Cool Planet for Teachers has moved

Our apologies

The page you are looking for has moved to the new Oxfam Education website.

You are now being redirected to the homepage, where you can find a huge range of resources to help you take a global approach in the classroom.

If you are not redirected automatically, please click here.



blank

Trychineb yn eich bwrw

Dychmygwch eich bod yng ngofal y tîm argyfwng a’ch bod newydd gyrraedd lleoliad y trychineb. Isod mae nifer o benderfyniadau. Penderfynwch os ydynt yn gywir neu’n anghywir, a sgrifennwch eich rheswm yn y gofod a roddir.

1

Gynted y byddwch yn derbyn newyddion ynglyn â’r trychineb, ‘rydych yn anfon apêl frys allan am gymorth rhyngwladol gan feddygon, nyrsys a staff meddygol arall.

[  ] Cywir       [  ] Anghywir
Rheswm


2

Trwy ddefnyddio’r wasg a’r teledu, ‘rydych yn gofyn i bobl Prydain beidio â chasglu ac anfon meddyginiaeth, dillad a chyfarpar.

[  ] Cywir        [  ] Anghywir
Rheswm


3

Y brif flaenoriaeth yw casglu a chael gwared o gyrff y meirwon, oherwydd fod yno berygl y byddant yn peri cledfydau heintus.

[  ] Cywir        [  ] Anghywir
Rheswm


4

Mae’n well ailgartrefu pobl mor agos â phosibl i’w tai eu hunain, yn hytrach na’u gosod mewn gwersylloedd.

[  ] Cywir       [  ] Anghywir
Rheswm


5

Bwyd yw’r brif flaenoriaeth ar ôl trychineb sylweddol; fel arall bydd pobl yn marw o newyn.

[  ] Cywir        [  ] Anghywir
Rheswm


6

Pan fo cyflenwadau bwyd yn brin, dylid rhoi bwyd i’r ifanc a’r henoed yn gyntaf.

[  ] Cywir       [  ] Anghywir
Rheswm


7

Pan fo trychineb yn eich bwrw, dylai aelodau unigol o’r tïm sy’n byw yn lleol ofalu am eu teuluoedd a’u heiddo yn gyntaf

[  ] Cywir       [  ] Anghywir
Rheswm

8

‘Rydych yn gofyn i’r heddlu a’r fyddin i warchod cartrefi, siopau a ffatrïoedd. Bydd hyn yn atal pobl rhag dwyn pethau tra bo’r perchenogion i ffwrdd.

[  ] Cywir       [  ] Anghywir
Rheswm

9

Hyd yn oed wythnosau ar ôl y trychineb rhaid i chi ddisgwyl y bydd pethau ymhell o fod yn ôl i normal. Ni fydd y rhan fwyaf o wasanaethu’n rhedeg yn iawn.

[  ] Cywir       [  ] Anghywir
Rheswm

10

Bydd y trychineb a sefyllfa druenus y bobl ‘rydych wedi bod yn eu helpu wedi mynnu sylw’r byd. Os oes trychineb yn digwydd yma eto, yna bydd yn haws casglu’r adnoddau angenrheidiol. Ni chaiff trychineb o’r fath gymaint o effaith dinistriol.

[  ] Cywir       [  ] Anghywir
Rheswm



Cynllun gwers: Trychineb yn eich bwrw

 

From Cool Planet - Oxfam's website for teachers and young people: www.oxfam.org.uk/coolplanet

Copyright Oxfam GB 2003. All Rights Reserved.
Site terms and conditions || Privacy policy