|
1 Anghywir
Fel arfer, gall gwasanaethau iechyd lleol ymdopi â thrychineb. Gall pobl o’r ardal siarad yr iaith leol ac maent yn gyfarwydd â’r diwylliant a’r amgylchedd lleol. Maent yn gwybod pa wasanaethau iechyd sy’n bodoli eisoes a sut i’w defnyddio. Gall timau o dramor ddarparu sgiliau a chyfarpar arbenigol, ond rhaid darparu llety a bwyd ar eu cyfer.
2
Cywir
Mae’n bwysig nad yw’r eitemau anghywir yn cael eu hanfon. Nid yw timau argyfwng eisiau gwastraffu eu hamser yn dethol eitemau y gellir eu defnyddio o blith y rheiny sy’n ddiwerth. Dylai pobl ym Mhrydain sy’n bryderus ynglyn â’r sefyllfa aros i glywed beth yn union sydd ei angen, neu dylent roddi arian fel y gall yr asiantaethau brynu’r defnyddiau angenrheidiol.
3
Anghywir
Nid yw cyrff yn achosi epidemig nac yn trosglwyddo clefydau yn ystod y tri diwrnod cyntaf ar ôl iddynt farw. Y brif flaenoriaeth yw achub a gofalu am y rheiny sydd wedi eu hanafu.
4
Cywir
Cadw pobl mor agos â phosibl i’w cartrefi yw’r dewis gorau. Anfon pobl i wersylloedd yw’r dewis olaf, gan fod iddynt eu problemau eu hunain. Gall afiechydon ledaenu yn haws os yw pobl yn byw mewn amgylchiadau cyfyng, ac o safbwynt seicolegol, mae’n well i bobl aros yn eu cynefin, os yw hynny’n bosibl. Serch hynny, mae’n bosibl y bydd angen cymorth rhyngwladol ar ffurf defnyddiau ac offer adeiladu.
5
Cywir
Bwyd yw’r brif flaenoriaeth yn dilyn llifogydd neu gorwynt, ond dylid ei storio a’i ddosbarthu mewn ffordd drefnus. Ar ôl y trychineb, mae’n bwysig rhoi hadau ac offer fel y gall pobl fynd ati i dyfu eu bwyd eu hunain.
6
Anghywir
Dylid rhoi bywd i bawb. Mae’r bobl sy’n achub bywydau ac yn ail-adeiladu (nid yw’r rhain fel arfer yr ieuengaf na’r hynaf) angen bwyd yn rheolaidd fel y gallant barhau i weithio.
7
Anghywir
Er ei bod yn ddalladwy y bydd unigolion eisiau gofalu am eu teuluoedd eu hunain yn gyntaf, mae gweithio fel tîm yn bwysig mewn trychineb. Weithiau gellir hyfforddi timau ymlaen llaw fel bod pob unigolyn yn gwybod beth y dylent ei wneud.
8
Anghywir
Mae’r cyfryngau yn aml yn gwneud adroddiadau ynglyn ag ymddygiad hunanol yn dilyn trychineb. Mewn gwirionedd, mae sefyllfaoedd trychinebus fel arfer yn dod â’r gorau allan mewn pobl. Mae cymunedau yn ymuno â’i gilydd i ymdopi â sefyllfaoedd anodd. Bydd angen yr heddlu a’r fyddin i helpu gydag achub bywydau a gwaith ail-adeiladu.
9
Cywir
Mae pobl yn dal i geisio ymdopi ag effeithiau trychineb am gyfnod hir ar ôl iddo ddigwydd. Gall y niwed i adeiladau, ffyrdd a.y.b. barhau am flynyddoedd, Mae’n bosibl fod gwasanaethau iechyd a chyflenwadau dwr wedi cael eu dinistrio. Mae ail-adeiladu yn waith drud iawn.
10
Anghywir
Yn anffodus mae sylw’r byd yn gyfyngedig iawn. Buan iawn y bydd y cyfryngau’n colli diddordeb. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu codi rhywfaint o arian ar gyfer adfer gwasanaethau ac ail-adeiladu hir-dymor, ond bydd yn anodd sicrhau nad yw pobl yn wynebu’r un perygl pe bai trychineb arall yn eu bwrw.
|