Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time.

Find out more

Digon o Fwyd i Bawb OS...

Dulliau creadigol o edrych ar newyn byd-eang gyda’ch disgyblion.

Mae'r ymgyrch OS yn fudiad sy'n credu y bod digon o fwyd i fwydo pawb yn y byd, OS...

Wrth ddeall rhagor am y materion sydd wrth wraidd ymgyrch OS, gallwch ddatblygu dealltwriaeth eich myfyrwyr o'r byd a'u rôl hwy fel dinasyddion byd-eang gweithredol.

 

Mae'r adnoddau hyn wedi cael eu cynllunio er mwyn helpu'r disgyblion i ddeall rhai o'r materion allweddol sy'n gysylltiedig â bwyd a newyn, a'r effaith maent yn eu cael ar fywydau pobl go iawn.

 

Deilliannau dysgu: dadansoddi a dyfynnu gwybodaeth, meddwl yn feirniadol am faterion, sgiliau cyflwyno, ysgrifennu'n berswadiol, cyfleu materion cymhleth, a datblygu llythrennedd gwleidyddol.

Downloads

  • PowerPoint Digon o Fwyd i Bawb OS (2MB)

    Cyflwyniad a throsolwg o’r ymgyrch OS. Addas i ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 2 i 4.

  • Pwy all wneud gwahaniaeth? (4MB)

    Edrych sut gall gwahanol grwpiau o bobl gael effaith o ran sicrhau fod Digon o Fwyd i Bawb. Addas i ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 3 a 4.

  • Gweithgaredd Blât (79kB)

    Rhoi cyfle i bobl ifanc ysgrifennu neges yn eu geiriau eu hunain at arweinwyr y byd ar dempled blât. Mae’n cynnwys canllawiau ynghylch sut i gynnal sesiwn yn defnyddio’r platiau.

Telerau defnydd

Hawlfraint © Oxfam GB
Gallwch ddefnyddio'r adnoddau a ddarperir er dibenion addysgol.  Sicrhewch fod y ffordd rydych yn defnyddio'r deunydd yn gyson â'r holl wybodaeth gyd-destunol a ddarparwyd, a nodi enw'r awdur ac Oxfam wrth ymyl unrhyw lun a ddefnyddir.  Mae'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r lluniau hyn yn berthnasol i'r cyfnod a'r dyddiad y cynhaliwyd y gwaith prosiect.