Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time. Find out more Close

Oxfam Cymru

Rydym yn gweithio i roi terfyn ar dlodi, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i sicrhau bod hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

Cyllideb rhoi mwy o bwysau ar 'Gwaelod Gwasgedig' Cymdeithas

Posted by Luned Jones Media and Communications Officer, Wales

22nd Mar 2012

View this blog in English

Gyda llawer o bobl yng Nghymru yn methu â dau ben llinyn ynghyd, mae Stephen Doughty, Pennaeth Oxfam Cymru yn ofni bydd y toriadau a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddiweddaraf (21 Mawrth 2012) fod yn drychinebus i'r teuluoedd hynny sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Mae'n ffars i alw'r hwn yn Gyllideb 'Robin Hood' pan fo llawer o fesurau yn methu a chefnogi'r bobl dlotaf yng Nghymru a'r rhai sydd eisoes wedi colli eu swyddi.

"Mae'r Canghellor yn anghywir i ddweud y bydd pob person sydd ar incwm isel a chanolig yn well eu byd.

"Er y bydd cynnydd yn nhrothwy treth incwm yn cynnig help i lawer, ni fydd y 'Gwaelod Gwasgedig', rhai sydd eisoes yn ennill llai na £ 8105 yn teimlo unrhyw fudd o gwbl.

"Mae ymchwil gan Oxfam a Cuts watch Cymru eisoes yn amcangyfrif y bydd 1 o bob 4 o bobl ledled Cymru yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y newidiadau i'r system les sydd eisoes wedi'u cyhoeddi.

"Felly, rydym yn pryderu'n fawr am effaith torriadau ychawnegol o £10 biliwn yn y gyllideb lles. Fydd llawer o bobl yn ei chael yn anodd ymdopi yn gofyn lle bydd y toriadau hyn yn cael eu gwneud a beth fydd yr effaith ar eu teuluoedd?

"Mae miloedd o deuluoedd cyffredin sy'n gweithio ar draws Cymru eisoes yn gwegian ar wrth geisio ymdopi - gallai'r toriad ychwanegol hwn fod yn drychinebus i deuluoedd ar incwm isel a phobl sy'n cael trafferth dod o hyd i waith mewn marchnad swyddi gwael iawn.

"Yn hytrach na chymryd hyd yn oed mwy o arian gan y rhai ar y gwaelod - dylai llywodraeth y DU gymryd mwy o'r rhai a achosodd yr argyfwng ariannol yn y lle cyntaf - gan gyflwyno Treth Hood Robin go iawn."

Blog post written by Luned Jones

Media and Communications Officer, Wales

More by Luned Jones