Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn achub ar y cyfle i ddymuno ffarwel!
Posted by
Luned Jones Media and Communications Officer, Wales
15th Jun 2012
Wrth i John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ddechrau ar ei daith i Brasil heddiw, cafodd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru (AAAC) ac mae Oxfam Cymru yn aelod ohono, y cyfle i ddymuno hwyl fawr iddo fynd i helpu achub y byd yn Uwchgynhadledd Datblygu Cynaliadwy y Cu Rio+20.
Fel rhan o Ddirprwyiaeth y DU, bydd John Griffiths AC yn gallu pwysleisio y cynnydd a'r arweiniad mae Cymru yn ei ddangos ym maes Datblygu Cynaliadwy, o weithredoedd polisi penodol megis cynllun effeithlonrwydd ynni tâi Arbed i Fesur arfaethedig Datblygu Cynaliadwy.
Meddai Haf Elgar, Cadeirydd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru : "Ry'n ni'n falch iawn bydd gan y Gweinidog gyfle i ddangos gweddill y byd cynnydd Cymru yn Natblygu Cynaliadwy. Gobeithiwn y gall Cymru, drwy drafodaethau â gwledydd eraill, adeiladu ar ei huchelgais ar gyfer ei Mesur Datblygu Cynaliadwy a bod yn geffyl blaen ar gyfer cenhedlaethau'r dyfodol a'r rhai sy'n byw mewn tlodi".
Yn y gorffennol mae Uwchgynhadleddau CU wedi gweld targedau byd-eang arloesol yn cael eu gosod ar gyfer lleihau allyriadau a'r tro hwn mae mudiadau ymgyrchu yn galw am weledigaeth fyd-eang ar gyfer economi deg a gwyrdd all fod o fudd i bawb, ac yn torri cwys newydd yn natblygu cynaliadwy.
Meddai John Griffiths: "Mae cynaladwyedd yn gymaint mwy na syniad gwyrdd, mae'n ymwneud a datblygu'r llwybr gorau ar gyfer Cymru yn y tymor hir - ansawdd bywyd da, iach a cynaladwy i bawb yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.
"Mae'n golygu pan fo gennym benderfyniadau anodd, ein bod yn dewis yr opsiwn sydd orau i Gymru yn y tymor hir, yn hytrach na'r opsiwn cyflyma', rhwyddaf neu rhataf."
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ei chynllun ar gyfer Mesur Datblygu Cynaliadwy. Gobaith AAAC yw y bydd Uwchgynhadledd Rio+20 yn ysbrydoli uchelgais y Gweinidog i ddangos ymrwymiad a gweithredu credadwy yn y Mesur all roi Cymru ar flaen y gad.
Meddai John Griffiths: "Falle bod Cymru yn wlad fach ond ry'n ni'n wirioneddol arwain ar rai polisiau cynaladwy blaenllaw. Credaf fod yn rhaid bwydo rhain i mewn i'r drafodaeth fyd-eang a tra byddaf yn Rio byddaf yn gofyn wrth llywodraethau eraill am eu barn am ein polisiau DC fel ymdrech i'w hysbrydoli nhw i weithredu yn debyg ac fel y gallwn oll ddysgu o unrhyw brofiadau perthnasol."
Ychwanegodd Elgar: "Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Mesur sy'n adlewyrchu cyd-destun argyfyngus gweithredu ar newid hinsawdd. Mae angen i ni weld yn glir fod gan awdurdodau cyhoeddus gyfrifoldeb I weithredu ac ein body n gyfrifol am ein heffeithiau rhyngwladol."