Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time. Find out more Close

Oxfam Cymru

Rydym yn gweithio i roi terfyn ar dlodi, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i sicrhau bod hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

A Oes Heddwch?

Posted by Julian Rosser Campaigns and Communications Co-ordinator, Oxfam Cymru

3rd Aug 2012

Heddwch : syniad sydd yn gyfystyr â'r Eisteddfod Genedlaethol gymaint ag yw clocsio, corau, cylch yr orsedd a dynion mewn ffrogiau.

Heddwch : syniad sydd yn gyfystyr â'r Eisteddfod Genedlaethol gymaint ag yw clocsio, corau, cylch yr orsedd a dynion mewn ffrogiau.

Felly lle gwell i Oxfam Cymru ail-lansio ei ymgyrch ar gyfer Cytundeb fyd-eang ar y Fasnach  Arfau? Ry'n ni eisiau cytundeb fyd-eang i roi diwedd  ar allforio arfau a ffrwydron pan allent gael eu defnyddio i hybu gwrthdaro a cham-drim hawliau dynol.  

Pam ail-lansio'r ymgyrch nawr? Oherwydd wedi deng mlynedd o ymgyrchu, sydd wedi gweld y syniad o gytundeb yn symud o'r ymylon i'r brif-ffrwd, gwelsom drafodaethau rhyngwladol yn Efrog Newydd yn dod i ben heb gytundeb ar ddiwedd mis Gorffennaf.  

Ond mae gobaith o hyd. Cyhoeddodd nawdeg o wledydd yn y trafodaethau, gan gynnwys y DU, ddatganiad yn dweud eu bod dal yn benderfynol i gyrraed cytundeb. Mae'r rhwystwyr, y prif gynhyrchwyr arfau  megis UDA a Rwsia, yn cael eu gweld yn gynyddol fel lleiafrif. Rydym yn benderfynol o fynd a'r frwydr i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym mis Hydref pan ni all unrhyw un gwlad ddefnyddio veto (gweler  : http://www.oxfam.org.uk/blogs/2012/07/disappointed-but-not-discouraged?intcmp=hp_57_hych3_att_verdict_2012-07-31 )

Byddwn yn yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos yn gwahodd pobl Cymru i ymuno â'r ymgyrch.  Gallwch ymuno â ni, nesa at sgrîn fawr BBC. Os na fyddwch chi yno, gallwch ymuno arlein drwy drydar eich cefnogaeth #aoesheddwch i @oxfamcymru. Neu arwyddwch y ddeiseb fyd-eang fan hyn:   http://www.oxfam.org.uk/get-involved/campaign-with-us/find-an-action/control-arms-petition-2012

Blog post written by Julian Rosser

Campaigns and Communications Co-ordinator, Oxfam Cymru

More by Julian Rosser