Sut mae Oxfam Cymru yn taclo toldi yng Nghymru?
Posted by
Fathima Ali UK Poverty Programme Co-ordinator
28th Nov 2012
Llynedd, cyrrhaeddodd gwaith dyngarol a datblygu Oxfam 15 miliwn o bobl mewn 55 o wledydd, ond oeddech chi'n gwybod ein bod ni hefyd wrthi yng Nghyrmu i daclo tlodi?
Diolch i Gronfa Loteri Fawr, mae rhaglen Tlodi y DU Oxfam Cymru yn dod a phrofiadau a gwersi rydym wedi dysgu wrth weithio gyda pobl mewn gwleydydd sy'n datblygu i Gymru.
Mae'r prosiect o'r enw 'Adeiladu Bywiolaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru' yn estyn o gopa'r Wyddfa i lawr i'r traethau yn y De, yn gweithio mewn 9 ardal* drwy bartneriaid Oxfam Cymru ar lawr gwlad.
Pa wersi a ddysgwyd?
Mae profiad Oxfam wedi dangos fod gan pobl sy'n profi tlodi ystod o alluoed, sgiliau ag asedion o'u hamgylch all gael eu defnyddio ac adeiladu oddi arnynt i'w cynorthwyo i reoli a gwella eu bywydau. Gall rhain fod yn rwydweithiau cymdeithasol fel teulu a ffrindiau, defnyddio gwasanaethau megis hyfforddiant a gofal iechyd ac yn ariannol dry waith neu fudd-daliadau. 'Arddull Bywiolaethau Cynaliadwy' yw'r enw am y modd yma o weithio gyda pobl fydd yn darparu mentora a hyfforddiant i unigolion er mwyn adnabod a
defnyddio yr adnoddau hyn.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Fathima Ali faali@oxfam.org.uk neu 0300 200 1269.
*Bydd y prosiect yn para am 3 mlynedd gyda naw partner : South Riverside Community Development Centre yng Nghaerdydd; Duffryn Community Link yng Nghasnewydd; African Community Centre in Swansea; The DOVE Workshop Yng Nghastell Nedd Port Tablot; Glyncoch Community Regeneration yn Rhondda Cynon Taf; Sylfaen Cymunedol yng Nghaernarfon; Caia Park Partnership yn Wrecsam, Y Cymuned Wallich Clifford a Denbighshire Voluntary Services Council yng Ngorllewin Rhyl.