Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time.

Find out more

Oxfam Cymru

Rydym yn gweithio i roi terfyn ar dlodi, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i sicrhau bod hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

Antonina Mendola yn sôn am y byd gwaith, chwerthin, a duwiau roc gitâr

Posted by Julie Cole PA to Head of Oxfam Cymru

19th Dec 2012

Boutique Caerdydd

Antonina Mendola yw Arweinydd Prosiect Mynediad at Waith i Rieni Unigol BME (Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig) Oxfam Cymru. Dysgwch am y prosiect arloesol hwn, pam ei bod hi wrth ei bodd yn chwerthin a beth yn union yr hoffai hi ei rannu gyda duw roc gitâr!

Mewn brawddeg, sut fyddech chi'n disgrifio Prosiect Mynediad at Waith i Rieni Unigol BME*?

Byddai hynny'n amhosibl - ga i dair brawddeg?!

Beth?

Nod y prosiect hwn yw cyflwyno ymyriadau cadarnhaol i fywydau rhieni unigol BME sydd wedi teimlo effaith y ddeddfwriaeth newydd ar fudd-daliadau. Mae'r prosiect peilot hwn yn gweithio gyda 22 o bobl ar hyn o bryd.

Pam?

Mae ymchwil yn dangos bod y grŵp hwn o bobl eisoes yn wynebu lefelau tlodi ac anfantais uchel ymhlith rhwystrau cymdeithasol eraill i allu cynnal eu hunain a'u teuluoedd yn llawn.

Sut?

1. Cymorth mentora dwys ar sail 1:1 ac mewn grŵp er mwyn dod â phobl yn agosach at y gweithle, gan ganolbwyntio'n arbennig ar feithrin hyder ac ymdrin â materion a rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu.

2. Lleoliadau gwirfoddoli mewn 3 siop Oxfam yng Nghaerdydd a Chasnewydd i gael profiad gwaith (mae'r lleoliadau'n hyblyg fel y gellid boddhau anghenion gofal plant).

3. Rydym wedi creu cymhwyster sgiliau manwerthu sy'n rhoi 3 chredyd tuag at NVQ lefel 2. Mae'r prosiect yn ariannu'r rhai sy'n dymuno ennill y cymhwyster. Maent yn gweithio tuag at y cymhwyster wrth iddynt ymgymryd â hyfforddiant mewn swydd hyd lefel dirprwy reolwr.

Mae'r prosiect yn defnyddio Dull Bywoliaethau Cynaliadwy profedig Oxfam (gellir rhoi'r ddolen yma)

Beth yw ei brif gyflawniad hyd yma?

Mewn ychydig llai na 2 fis, mae 2 unigolyn wedi dod o hyd i waith am dâl, ond yr hyn sydd hefyd yn bwysig yw'r ffaith bod y grŵp cyfan yn cael profiad a hyder, ac yn teimlo eu bod yn gallu rheoli eu tynged.

Ond fe ddylai hyn ddod gan un o'r cyfranogwyr eu hunain:

"Ers i mi ymuno â'r rhaglen, rwyf yn gwybod beth i'w wneud gyda'm bywyd, ac rwy'n gwireddu fy mreuddwydion. Rwyf wedi penderfynu rhedeg fy musnes dillad a theilwra fy hun." Saima Abbas, Caerdydd

Mae Saima hefyd yn weinyddwr gwirfoddol ar gyfer y prosiect, a bydd yn mentora gwirfoddolwyr eraill i ennill eu cymwysterau mewn sgiliau manwerthu.

Beth sydd wedi gwneud i chi chwerthin yn ystod y prosiect?

Mae rhai o'r personoliaethau'n dod i'r amlwg go iawn wrth i ni ddod i adnabod ein gilydd - rydym wastad yn chwerthin pan rydym efo'n gilydd.

Sut beth oedd gweithio gyda siopau Oxfam?

Mae heriau o hyd pan fyddwch chi'n sefydlu prosiectau newydd; serch hynny, rydym wedi gweithio drwy'r rhain mewn ffordd gadarnhaol. Ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni fynd â'r prosiect i'r pwynt hwn heb y siopau, yn enwedig â rheolwyr gwych fel Becky Mann yn yr Oxfam Boutique.

Beth oedd yr her fwyaf?

Jyglo nifer o rolau o fewn y prosiect, ond rwyf wrth fy modd efo'r bobl!

Sut hoffech chi i'r prosiect gael ei gofio?

Hoffwn weld y prosiect yn datblygu ymhellach. Byddai'n wych petai'r holl wirfoddolwyr yn siopau Oxfam yn cael cyfle i ennill cymwysterau'r un pryd â chael profiad gwaith.

Beth sy'n eich ysgogi chi i godi yn y bore?

Fy merched hyfryd a gwylio pobl yn tyfu ac yn datblygu.

 phwy fasech chi'n hoffi rhannu myffin siocled?

Jimmy Hendrix!

Pe baech chi'n gallu newid un peth i wneud y byd yn lle gwell, beth fyddai hynny?

Dysgu mwy o bobl i ddod o hyd i fodd i chwerthin yn eu bywydau.

*Ariannwyd y prosiect hwn gan:  Canolfan Byd Gwaith - cronfa cymorth hyblyg ac Unilever.

Blog post written by Julie Cole

PA to Head of Oxfam Cymru

More by Julie Cole

Comments