Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time.

Find out more

Oxfam Cymru

Rydym yn gweithio i roi terfyn ar dlodi, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i sicrhau bod hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

Unrhyw gynnig arall? GWERTHWYD!

Posted by Luned Jones Media and Communications Officer, Wales

6th Dec 2012

Gwerthwyd! Castell Caerdydd

Mae Pier Penarth, Barry Island, Marchnad Abertawe, Pier Aberystwyth Pier a chastell Caerdydd i gyd  "WEDI GWERHTHU"!

Fel y cam nesaf o'n hymgyrch tir, mae cefnogwyr Oxfam ar draws Cymru wedi bod yn codi arwyddion 'WEDI GWERTHU' yn rhai o hoff fannau Cymru i godi ymwybyddiaeth am yr angen i stopio tir gipio, sy'n gadael pobl yn Affrica, Asia ac America Ladin yn ddi-gartref a heb ffordd o fynd at dir meant yn dibynnu arno ar gyfer bwyd i'w fwyta ac i wneud bywoliaeth.

Aeth gwirfoddolwyr lleol, Keith ac Enid ym Mhenarth, Dan yn Barry Island, ein grwp o fyfyrwyr yn Aberystwyth, tîm y siop ynf Nghaerfyrddin, Brent Morgan o grwp theatre Dextart yn Abertawe ac ymgyrchwyr yng Nghaerdydd - i ledaenu'r neges ledled Cymru am yr angen i daclo tir gipio mewn gwledydd sy'n datblygu.

Mae'r rhuthr diweddar am dir wedi gweld ardal o dir maint Cymru yn cael ei werthu I fuddsoddwyr tramor bob 37 diwrnod yng ngwledydd tlawd. Prin iawn yw'r cytundebau hyn sydd wedi eu rheoleiddio'n ddigonol neu eu plismona i atal tir gipio, gan olygu fod pobl dlawd yn cael eu troi allan o'u catrrefi, yn aml yn dreisgar, heb ymgynghoriad na iawndal.  

Dywedodd Pennaeth Oxfam Cymru, Julian Rosser,: "Gyda ardal o dir maint Parc Cebnedlaethol Eryri yn cael ei werthu mewn gwledydd sy'n datblygu bob 8 diwrnod, mae mwyfwy o bobl yn wynebu'r risg o golli'r tir dan eu traed drwy dir gipio."

Mae'r tir a werthwyd ar draws y byd dros y ddegawd ddiwethaf yn ddigon I fwydo biliwn o bobl.

Ychwanegodd Julian, "Drwy gynnal ocsiynau esgus a chodi arwyddion wedi gwerthu, heb rybudd, ger mannau sy'n agos at ein calonnau, ry'n ni'n gobeithio bydd pobl yn gallu teimlo sut beth yw hi i brofi tir gipiad. Mae tir gipiad yn aml yn digwydd heb ymgynghoriad - dychmygwch gael eich taflu oddi ar eich tir heb rybudd a darganfod eich bod yn heb gartref, heb dir, heb geiniog ac yn wynebu trais."

Mae angen chi ac eich AS i wneud i Fanc y Byd i glywed.

Mae Banc y Byd yn ariannu llawer o gytundebau tir mawr. Mae hefyd yn dylanwadu sut mae tir yn cael ei brynu a'I werthu. Golyga hyn fod ganddo'r gryn i stopio tir gipio.

 

Gofynnwch i'ch AS ychwanegu ei lais i'n galwadau ni am gyfiawnder - dewch i ni 'neud swn all Banc y Byd ei anwybyddu.

http://www.oxfam.org.uk/get-involved/campaign-with-us/find-an-action/land-grabs-dfid?intcmp=hp_130_hych3_dfid-landgrabs_2012-12-06

Blog post written by Luned Jones

Media and Communications Officer, Wales

More by Luned Jones

Comments