Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time.

Find out more

Oxfam Cymru

Rydym yn gweithio i roi terfyn ar dlodi, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i sicrhau bod hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

Oxfam yn Tanio Gweithredu - cynllun siaradwyr mewn Ysgolion

Posted by Kathryn Mackridge

13th Dec 2012

Peidiwch byth â gweithio gydag anifeiliaid na phlant… dyna mae rhai pobl yn ei ddweud… ond ni allai'r datganiad hwnnw fod ymhellach o'r gwir i ni yn Oxfam. Archie'r Afr yw prif gymeriad ein dewis o anrhegion 'Unwrapped Christmas', ac o ran plant, mae rhaglen Oxfam yn Tanio Gweithredu yn ymwneud yn benodol â phobl ifanc!

Oxfam yn Tanio Gweithredu yw ein cynllun siaradwyr mewn ysgolion sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu am faterion byd-eang yn yr ysgol.  Mae gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi'n llawn ar gael i ddarparu gweithdai a gwasanaethau ar amrywiaeth o bynciau byd-eang, gan gynnwys addysg, iechyd a newid yn yr hinsawdd. Fe wnes i ymgeisio i fod yn siaradwr mewn ysgolion ar ôl treulio rhywfaint o amser fel cynorthwyydd dysgu yn y gorffennol, ac roeddwn i'n awyddus iawn i drafod materion byd-eang gyda phobl ifanc, clywed eu barn a'u hatebion ac ehangu eu gorwelion (yn ogystal â rhai fi fy hunan!)

Ar ôl yr hyfforddiant cynhwysfawr a llawn hwyl i Siaradwyr mewn Ysgolion a gynhaliwyd gan Oxfam ym mis Medi, roeddwn yn llawn cyffro wrth feddwl am fynd i rai o'r ysgolion lleol a siarad gyda phobl ifanc am waith Oxfam a dinasyddiaeth fyd-eang.  Ar hyn o bryd, mae Oxfam yn gweithio gyda'r Co-operative i ddysgu myfyrwyr am dyddynwyr a'r rhan bwysig maen nhw'n ei chwarae i greu system fwyd fyd-eang fwy cynaliadwy drwy gyfrwng y gweithdy Ffermwyr sy'n Bwydo ein Byd.  Cysylltodd Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn y Barri  â mi i ofyn i mi wneud cyflwyniad i grŵp o fyfyrwyr chweched dosbarth sy'n cynllunio digwyddiad Masnach Deg yn eu hysgol fel rhan o'r Fagloriaeth Gymreig.

Er gwaethaf fy mhrofiad mewn ystafelloedd dosbarth, roeddwn fymryn yn ofnus wrth feddwl am annerch tua chant o bobl ifanc 17 ac 18!  Yn ffodus, roedd llawer o wirfoddolwyr yng Nghymru wedi cael eu hyfforddi ym mis Medi, felly cefais draddodi fy nghyflwyniad cyntaf gyda Laura, un arall o'r Siaradwyr mewn Ysgolion o Gaerdydd - gan olygu bod fy nerfau cyn fy nghyflwyniad cyntaf wedi cael eu tawelu fymryn bach.

Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu labelu fel rhai sy'n dangos apathi neu ddiffyg diddordeb mewn materion byd-eang, ond roedd y grŵp o fyfyrwyr chweched dosbarth y buom yn gweithio gyda nhw yn effro ac yn llawn diddordeb - rhywbeth nodedig iawn am 9 o'r gloch ar fore gwlyb ym mis Tachwedd!  Fe wnaethon nhw gymryd rhan yn yr holl weithgareddau a gofyn cwestiynau digon treiddgar, gan brofi gwybodaeth Laura a minnau'n drylwyr!  Fe wnaethon nhw lwyddo i nodi'r prif broblemau sy'n wynebu tyddynwyr ledled y byd, gan arddangos eu sgiliau meddwl beirniadol rhagorol - rhan bwysig o'r fframwaith Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF), rhywbeth y mae cynllun Siaradwyr mewn Ysgolion Oxfam yng Nghymru yn gallu helpu i'w gefnogi.

Ar hyn o bryd mae 500 miliwn o dyddynwyr ledled y byd sy'n bwydo hyd at 2 biliwn o bobl ar ein planed: dyna bron i draean poblogaeth y byd.  Er hynny, mae'r newid yn yr hinsawdd, prisiau bwyd uchel a diffyg adnoddau yn golygu fod y ffermwyr hyn yn gyson yn wynebu tywydd ansicr, ychydig iawn o gyfleoedd masnachu, a chystadleuaeth â ffermydd mawr.  Mae Oxfam a'r Co-Operative wedi ymuno i eiriol dros y tyddynwyr hyn, ac maen nhw'n gofyn i lywodraethau fuddsoddi mewn hyfforddi ac adnoddau fel bod cydweithfeydd bwyd yn gallu tyfu a bwydo hyd yn oed mwy o bobl ledled y byd.

Am ragor o wybodaeth ynghylch hyn, ewch i http://www.oxfam.org.uk/get-involved/campaign-with-us/find-an-action/small-scale-farming-coop

Mae Oxfam yn gweithio gyda Chwyldro Ysgolion Gwyrdd y Co-operative mewn ysgolion ledled y Deyrnas Unedig i addysgu myfyrwyr am system fwyd gynaliadwy. Os hoffech gofrestru eich ysgol dan y cynllun Chwyldro Ysgolion Gwyrdd, ewch i http://www.co-operative.coop/green-schools-revolution/

Os hoffech drefnu bod un o Siaradwyr mewn Ysgolion Oxfam yn dod i gynnal gweithdy neu wasanaeth yn eich ysgol, neu os oes gennych ddiddordeb yn y pynciau a gynigir, ewch i wefan Addysg Oxfam http://www.oxfam.org.uk/education/teachersupport/school_speakers/ neu ffoniwch Vicky Leech yn swyddfa Oxfam Cymru ar 0300 200 1269

Comments