Cymru – sut i ddiogelu cymunedau bregus a choedwig drofannol
Posted by
Lorraine Rees Community Fundraiser for Wales/Cymru
12th Dec 2012
Gall pobl yng Nghymru chwarae rhan bwysig o ran helpu i ddiogelu un o gymunedau mwyaf agored i niwed y byd drwy godi arian ar gyfer prosiect unigryw Oxfam Cymru - a chaiff pob punt a roddir ei dyblu gan sefydliad Maint Cymru.
Mae Oxfam Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Maint Cymru i helpu i gynnal coedwig drofannol dwywaith maint bwrdeistref sirol Wrecsam - mil o gilometrau sgwâr. Mae'r rhan hon o'r goedwig drofannol yng ngwarchodfa Biosffer Bosawas yn Nicaragua, y warchodfa goedwig fwyaf yng Nghanolbarth America.
Mae gwarchodfa Bosawas yn cynnwys mamwledydd pobl frodorol, a'r goedwig yw eu ffynhonnell bywyd, bwyd a pherlysiau meddyginiaethol. Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, peryglwyd eu ffordd o fyw gan ddatgoedwigo ar raddfa aruthrol, sef clirio tir yn gyflym ac yn anghynaladwy at ddibenion amaethyddiaeth a ffermio da byw dwys, sydd wedi arwain at erydiad y pridd, llygru'r dŵr a cholli mathau o anifeiliaid a phlanhigion.
Mae Oxfam Cymru wedi derbyn yr her o godi arian i ddiogelu rhan o warchodfa Bosawas, a bydd Maint Cymru yn cyfrannu punt am bob punt a godir erbyn 31 Mawrth 2013.
Drwy brosiect Oxfam Cymru, bydd cymunedau'n cael eu haddysgu a'u hyfforddi ar sut i ddiogelu'r coedwigoedd y maent yn byw ynddynt fel rhan bwysig o'r darlun newid yn yr hinsawdd a gwarchodaeth amgylcheddol ehangach. Gallai rhodd o £115 hyfforddi warden parc gwirfoddol i fonitro torri coed anghyfreithlon a gallai £750 ail-goedwigo ardal gyfystyr â'r cae rygbi yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Gallwch chi gefnogi'r prosiect hwn mewn sawl ffordd: drwy wneud rhodd; drwy ddod â'ch ffrindiau a chydweithwyr at ei gilydd i godi arian: neu drwy brynu "coeden" o gatalog Nadolig Oxfam Unwrapped - anrheg gwbl unigryw!
Dywedodd Lorraine Rees, Swyddog Codi Arian Cymunedol Oxfam Cymru, "Gall eich cymorth chi helpu pobl a choedwig law oroesi am genedlaethau eto".
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lorraine Rees Lrees@oxfam.org.uk 07810152727