Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time.

Find out more

Oxfam Cymru

Rydym yn gweithio i roi terfyn ar dlodi, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i sicrhau bod hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

Yn dilyn blwyddyn wych yn codi arian, mae Co-operative dros Gymru wedi codi bron i £93,000 i’r elusen Hadau Gobaith

Posted by Lorraine Rees Community Fundraiser for Wales/Cymru

22nd Jan 2013

Staff o Co-operative Cydweli, Veronica German Dolen Cymru, Lorraine Rees Oxfam Cymru, Ashley Drake Cooperative

Yn dilyn blwyddyn wych yn codi arian, mae siopau bwyd, fferyllfeydd a banciau'r Co-operative dros Gymru wedi codi bron i £93,000 i'r elusen Hadau Gobaith, partneriaeth rhwng Oxfam a Dolen Cymru sy'n cefnogi prosiectau tyfu a chynaliadwyedd yng Nghymru ac Affrica.

Dywedodd Ashley Drake, rheolwr aelodaeth y Co-operative yng Nghymru, "Mae partneriaeth Hadau Gobaith wedi mynd o nerth i nerth ers i ni lansio ein hymgyrch codi arian ar ddechrau 2012. Manteisiodd gweithwyr ein siopau a'r canghennau ar y cyfle i gyflwyno ffyrdd newydd a hwyliog i godi arian. Mae'r ffaith ein bod wedi gwneud yn well na'r disgwyl ac wedi rhagori ar ein targed gwreiddiol o £50,000 yn glod i waith caled timau'r siopau a'r canghennau, a hefyd i haelioni a chefnogaeth ein cwsmeriaid".

Dywedodd Lorraine Rees, Gweithwraig Codi Arian Cymunedol dros Oxfam, "Rydym wedi cael ein siomi ar yr ochr orau gan yr arian a godwyd, fydd yn siŵr o wneud gwahaniaeth hirhoedlog er gwell i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Mae hyn yn galluogi Oxfam i wella bywydau cannoedd o deuluoedd yn Ethiopia drwy hyfforddi gwenynwyr benywaidd ac ehangu'r fenter gydweithredol o wneud mêl. O ganlyniad, bydd teuluoedd yn gallu fforddio anfon eu plant i'r ysgol a bwyta bwyd gwell. Yng Nghymru, bydd peth o'r arian yn cael ei ddefnyddio i recriwtio gweithiwr prosiect rhan-amser yn Nyffryn, Casnewydd, a'i nod fydd annog teuluoedd i ymuno yn y fenter fwyd gydweithredol leol, bwyta rhagor o ffrwythau a llysiau a gwella eu hiechyd".

Bydd Dolen Cymru yn defnyddio cyfran o'u harian i ddatblygu prosiect y berllan yn Lesotho, a fydd yn galluogi pobl anabl a phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan glefydau HIV ac AIDS i dyfu bwyd, bwyta'n iach a gwerthu'r cynnyrch sy'n weddill.

Yn y llun gyda Lorraine ac Ashley mae Veronica German o'r elusen Dolen Cymru a staff o Co-operative Cydweli, a gododd y swm anhygoel o £2,400 gyda heriau eillio pen, stondin lyfrau a chystadleuaeth enwi'r tedi bêr.

 

Blog post written by Lorraine Rees

Community Fundraiser for Wales/Cymru

More by Lorraine Rees

Comments